Sganiwr delweddu i dargedu canser y pen a'r gwddf
- Cyhoeddwyd
Bydd technegau delweddu manwl yn cynorthwyo meddygon i dargedu canser y pen a'r gwddf yn fwy effeithiol mewn cynllun prawf gwerth £720,000 yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Y bwriad yw gwella triniaeth a chyfraddau goroesi cleifion yn Ysbyty Felindre a Singleton.
Mae'r sganiwr 3D yn amlygu union leoliad y tiwmor ac yn dangos sut mae'r canser yn datblygu mewn ffordd fwy manwl, sy'n galluogi meddygon i'w dargedu'n well gyda radiotherapi.
Elusennau Ymchwil Canser Cymru a Sefydliad Moondance Felindre sydd wedi cyllido'r prosiect.
Fel map o ddinas
Bydd y cynllun, sy'n dechrau'n ddiweddarach eleni, yn cyfuno radiotherapi modern gyda delweddu meddygol datblygedig - techneg sy'n cael ei alw'n PET.
Yn ôl meddygon, yn ogystal â gweld amlinelliad y tiwmor fel sy'n digwydd gyda sgan CT ac MRI cyffredin, mae'r delweddu PET yn caniatáu iddyn nhw weld pa mor actif yw'r tiwmor.
Mae'n cael ei gymharu gyda chael map o strydoedd canol dinas, gyda'r gallu i weld lleoliadau gwaith ffyrdd a thagfeydd traffig.
Dywedodd yr oncolegydd ymgynghorol Dr Mererid Evans: "Mae sgan PET CT yn ein galluogi ni i weld y canser yn well, ac wedyn ei dargedu'n well gyda radiotherapi.
"Felly beth y'n ni'n neud wrth roi PET CT i rywun yw bod nhw'n cael chwistrelliad o fath o siwgr radio actif, ac wedyn mae hynny'n cael ei gymryd lan gan gelloedd y canser sy'n troi drosto yn gloi ac yn bwyta lan y siwgr yma, ac wedyn mae hynny'n goleuo lan ar sgan y PET CT.
"Ry'n ni'n defnyddio'r wybodaeth yna i dargedu'r canser sydd wedi'i oleuo ar y sgan i drin e gyda radiotherapi."
Yn ôl Dr Evans, dyma'r tro cyntaf mae technoleg o'r fath wedi ei ddefnyddio yng Nghymru.
"Does dim lot o lefydd yn gwneud hyn o gwbl yn y Deyrnas Unedig nag yn y byd i gyd. Beth y'n ni'n mynd i 'neud yw gwneud hynny, ond cymryd e gam ymhellach."
Canser y pen a'r gwddf
Mae'r math yma o diwmor yn destun gwaith ymchwil gan fod anatomeg y pen a'r gwddf mor gymhleth.
Mae rhwng 10% a 20% o diwmorau yn y pen a'r gwddf yn parhau neu yn dychwelyd er gwaethaf radiotherapi - bwriad y cynllun yw gwella'r gyfradd yma;
Tiwmorau yn y pen a'r gwddf yw 7% o gyfanswm canserau;
Roedd tua 2,000 o achosion newydd yng Nghymru rhwng 2013 a 2015, ac mae nifer yr achosion ar gynnydd ers 2001;
Y math yma o ganser yw'r wythfed mwyaf cyffredin yn y DU, ond y chweched mwyaf cyffredin ymysg dynion Cymru;
Mae nifer y menywod sy'n dioddef o ganser y pen a'r gwddf wedi cynyddu'n sylweddol hefyd dros y degawd diwethaf.
'Gwella'r tebygrwydd o wellhad'
Unwaith mae'r cleifion wedi derbyn y dos cyntaf o radiotherapi i gael gwared â'r rhan fwyaf o'r canser, fe fyddan nhw'n derbyn sgan PET yng nghyfleuster PETIC Prifysgol Caerdydd.
Ychwanegodd Dr Tom Crosby, arweinydd clinigol rhaglen Moondance: "Mae'r dull personol yma yn cynnig y posibilrwydd o gyrraedd y nod o ran oncoleg fanwl gywir.
"Hynny yw, bwrw'r tiwmorau yn galetach gyda dosau uwch o ymbelydredd, gan wella'r posibilrwydd o reoli'r afiechyd a'r tebygrwydd o wellhad, ac amddiffyn meinweoedd iach fyddai'n gallu arwain at sgîl-effeithiau hir dymor pe bai nhw'n cael eu niweidio."
Ychwanegodd Llywydd Ymchwil Canser Cymru, Yr Athro John Moore: "Fe fydd hyn yn galluogi cleifion yng Nghymru i fod ymhlith y cyntaf i elwa o'r dechnoleg arloesol yma, ac os fydd hyn yn llwyddiant, gallwn ni ei drosglwyddo i ganolfannau canser eraill ar draws y Deyrnas Unedig, a'i ddefnyddio i drin mathau eraill o diwmorau hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2017