Twristiaeth Cymru 'yn annhebygol o elwa o'r bunt wan'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib na fydd Cymru mewn lle i fanteisio ar y cynnydd disgwyliedig mewn twristiaid o dramor eleni, yn ôl arbenigwr.
Y disgwyl yw y bydd y bunt wan yn gwneud y DU yn le mwy deniadol i ddod ar wyliau, yn enwedig i ymwelwyr o Ogledd America.
Ond dywedodd yr Athro Brian Garrod fod angen i Gymru wario mwy ar farchnata, yn ogystal â gwella'r arlwy sydd yn cael ei gynnig i dwristiaid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod nifer yr ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf wedi torri recordiau.
'Gwell marchnata'
"Mae gennym ni westai da iawn yma yng Nghymru, ond dydyn nhw ddim ymysg y gorau," meddai'r Athro Garrod o Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth.
"Er bod gennym ni barciau thema da yng Nghymru, eto nid y rheiny yw'r gorau ac rydyn ni wastad yn cystadlu gyda Lloegr a'r Alban.
"Mae angen i ni wneud 'chydig mwy i ddenu pobl i Gymru, yn enwedig o dramor.
"Mae angen i ni wella ein hymdrechion marchnata. Mae angen i ni feddwl mwy am fuddsoddi er mwyn i bobl wybod am Gymru."
Yn ôl yr Athro Garrod, aelod o'r Gymdeithas Dwristaidd sydd yn cynrychioli'r sector, mae Croeso Cymru yn gwario tua £10m y flwyddyn ar farchnata, tra bod Yr Alban yn buddsoddi £55m.
"Mae llawer o ymwelwyr o dramor yn gwybod llawer am Yr Alban ac yn teithio i Gaeredin, Glasgow a'r Ucheldiroedd, ond yn hepgor Cymru," ychwanegodd.
"Dydyn nhw jyst ddim yn gwybod amdanom ni."
Blwyddyn y Chwedlau
Ond mynnodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates bod "twristiaeth yng Nghymru mewn safle cryf".
Cyfeiriodd at ffigyrau gafodd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol oedd yn dangos bod Cymru wedi croesawu 856,000 o ymwelwyr o dramor yn naw mis cyntaf 2016, cynnydd o 12% o'i gymharu â 2015.
Fe wnaeth gwariant twristiaid i Gymru hefyd gynyddu o 9% ers 2015.
Ychwanegodd Mr Skates y byddai ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau yn 2017 hefyd yn gyfle i hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru.
"Mae gwaith yr ymgyrch yn parhau i droi diddordeb cychwynnol, a chyfleoedd o'r bunt wan, i mewn i archebion ar gyfer yr haf," meddai.
Ychwanegodd yr Athro Garrod fod yr ymgyrch yn gyfle i fanteisio ar gestyll Cymru, gydag ymchwil yn dangos bod 40% o ymwelwyr o dramor yn ymwybodol ohonynt.