Gostwng targedau amser ar gyfer llawdriniaeth y glust

  • Cyhoeddwyd
clustFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae targedau amseroedd aros ar gyfer pobl sydd angen llawdriniaeth oherwydd problemau gyda'u clyw wedi eu haneru i 26 wythnos.

Bydd y targed ar gyfer llawdriniaeth i roi mewnblaniad yn y cochlea mewn oedolion yn cael ei ostwng i 26 wythnos mewn achosion arferol, ac i 36 wythnos mewn achosion cymhleth.

Ar hyn o bryd yr amser targed yw 52 wythnos.

Mae'r mewnblaniad yn galluogi pobl sydd â phroblemau clyw sylweddol i glywed unwaith eto.

Dyfais feddygol yw mewnblaniad yn y cochlea sy'n gallu gwneud gwaith y glust fewnol.

Llawdriniaeth

Mae 13,480 o bobl yng Nghymru wedi eu cofrestru gyda phroblemau gyda'u clyw, ac yn 2015/16 cafodd 65 o bobl lawdriniaeth i roi mewnblaniad.

Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i gyflwyno'r targedau newydd dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r canolfannau sy'n darparu'r llawdriniaeth wedi eu lleoli yn yr Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: "Rydym am sicrhau bod pobl sydd angen mewnblaniad yn y cochlea yn gallu cael y llawdriniaeth cyn gynted â phosibl er mwyn gwella neu adfer eu clyw.

"Mae byddardod yn gallu cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd llawer o bobl, gan effeithio ar gyflogaeth, gweithgareddau hamdden a'u perthynas ag eraill."