Llofruddiaeth: Dyn yn dianc o ofal heddlu yn India
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yr honnir iddo orchymyn lladd dyn yng Nghaerdydd - arweiniodd at farwolaeth myfyriwr - wedi dianc o ofal yr heddlu yn India.
Honnir i Mohammed Ali Ege, 41 oed, orchymyn dau ddyn i ladd dyn oherwydd ffrae am arian, ond aeth y ddau i'r cyfeiriad anghywir a llofruddio llanc 17 oed.
Cafodd Ben Hope a Jason Richards eu carcharu am oes am drywanu Aamir Siddiqi i farwolaeth wrth iddo agor y drws i'r ddau yng Nghaerdydd yn 2010.
Wedi'r llofruddiaeth fe wnaeth Ege ddianc i India ond cafodd ei arestio flwyddyn yn ddiweddarach.
Ers hynny mae e wedi bod yn ddalfa yn disgwyl am wrandawiad i'w estraddodi, ond fe wnaeth ddianc o orsaf heddlu wrth gael ei gludo o un gwrandawiad.
Gwybodaeth berthnasol
Dywedodd Comander Mahendra Kumar Rathod: "Roedd y dyn yn cael ei gludo yn ôl i Hyderabad ar drên a gofynnodd i gael mynd i'r tŷ bach, a llwyddodd i ddianc oddi yno drwy dynnu'r bariau o ffenest yno."
Doedd Heddlu'r De ddim am wneud sylw am ddihangfa Ege o ofal yr heddlu yn India, ond dywedodd llefarydd:
"Mae ein swyddogion yn parhau i siarad gyda'r awdurdodau am yr estraddodi ac fe fyddwn yn parhau i siarad gyda theulu Aamir Siddiqi er mwyn rhoi'r wybodaeth berthnasol iddyn nhw."
Fe gafodd Hope a Richards eu talu £1,000 yr un i ladd dyn arall yn ardal y Rhath, Caerdydd, ond aeth y ddau i'r stryd anghywir a thrywanu Aamir Siddiqi mewn camgymeriad.
Fe gafodd rhieni Aamir hefyd eu trywanu wrth iddyn nhw geisio achub eu mab.
Cafodd y ddau eu carcharu am oes gyda lleiafswm o 40 mlynedd dan glo am lofruddio a cheisio llofruddio.