Cynnydd yn y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
A collection of confiscated legal highsFfynhonnell y llun, PA

Mae dwy elusen wedi dweud bod mwy o bobl yn dod atyn nhw i ddweud eu bod yn gaeth i gyffuriau ers iddyn nhw gael eu gwahardd.

Daeth yn anghyfreithlon i gynhyrchu, dosbarthu neu werthu'r cyffuriau, oedd yn arfer bod yn rhai cyfreithlon, ym mis Mai 2016.

Ond nawr mae asiantaeth gyffuriau CAIS a Drug Aid Cymru yn dweud bod y defnydd o gyffuriau o'r fath wedi cynyddu dros y tri i chwe mis diwethaf.

Daw sylwadau'r elusennau wedi i luniau o Wrecsam gael eu rhannu ym mis Mawrth yn dangos pobl oedd yn ymddangos fel pe baen nhw o dan ddylanwad y cyffuriau.

Dywedodd Clive Wolfendale o CAIS bod mwy o ymwybyddiaeth i'r sylweddau oedd yn golygu bod mwy yn adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin y cyffuriau.

Ychwanegodd bod angen mwy o ymchwil i'r defnydd ohonyn nhw.

"Dros y misoedd diweddar yng ngogledd Cymru, ry'n ni wedi gweld mwy o bobl yn dod atom gyda thrafferthion oherwydd y defnydd o sylweddau seico-actif," meddai.

"Yn bersonol roeddwn i'n bryderus ers y dechrau y byddai gwaharddiad yn rhoi'r farchnad yn nwylo troseddwyr fel yr ydym wedi gweld gyda chyffuriau fel heroin a chocên.

"Fy mhryder yw bod y sylweddau, er gwaetha'r gwaharddiad, mor hawdd i'w cael nawr fel bod hwn yn ffenomenon fydd gyda ni am flynyddoedd os nad degawdau i ddod.

"Ry'n ni'n gweld pobl fregus yn eu cymryd. Mae'n bosib eu bod nhw'n cael eu defnyddio gan droseddwyr, ond mae angen mwy o ymchwil i ddeall beth sy'n mynd ymlaen."

Roedd Rob Barker, o Drug Aid Cymru, yn cytuno.

Dywedodd: "Roedd nifer y bobl oedd yn defnyddio'r sylweddau yma wedi disgyn ar ôl mis Mai pan ddaeth y ddeddf i rym, ac roedd hynny'n beth da.

"Roedd y siopau oedd yn eu gwerthu yn cau, ac roedd hi'n fwy anodd cael gafael arnyn nhw am gyfnod byr.

"Ond mewn gwirionedd, dros y tri i chwe mis diwethaf ry'n ni'n dechrau gweld pobl yn dod atom ni gydab thrafferthion gyda chyffuriau o'r fath, yn enwedig fersiynau synthetig o ganabis."

Mae ffigyrau ers mis Ionawr eleni yn dangos nad yw tri o'r pedwar llu heddlu yng Nghymru wedi erlyn unrhyw un ers i'r gwaharddiad ddod i rym.