Cynllun am ganolfan llesiant i gleifion arennau
- Cyhoeddwyd
Fe allai canolfan llesiant gwerth £4m ar gyfer y 10,000 o bobl yng Nghymru sydd yn byw gyda chlefyd yr arennau fod y gyntaf o'i bath yn y wlad.
Bydd taith gerdded 450 milltir (724 km) yn dechrau ddydd Mawrth, ac fe fydd y daith yn ymweld â phob un o'r 16 o ganolfannau dialysis Cymru i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr.
Gyda llawer o ddioddefwyr yn gorfod treulio hyd at chwech awr ar ddialysis dair gwaith yr wythnos, nid yw'n bosib i lawer fynd ar eu gwyliau.
Mae'r daith gerdded wedi ei threfnu gan elusen Aren Cymru er mwyn nodi 50 mlynedd mewn bodolaeth a'r gobaith ydi y byddai canolfan o'r fath yn cynnig gorffwys i ddioddefwyr.
Mae 1,400 o gleifion ar ddialysis yng Nghymru - sy'n golygu fod peiriant yn gwaredu gwastraff a dŵr o waed pobl sydd heb arennau iach.
Hefyd mae 165 o bobl yn aros am drawsblaniad arennau yng Ngymru ar hyn o bryd, sydd yn 90% o'r holl bobl sy'n aros am drawsblaniadau. Mae 33% o bobl yn marw cyn eu derbyn.
Mae bywyd i bobl ar ddialysis yn "ymdrech galed" ac mae'r cyfleoedd i bobl gael hoe "yn eithaf cyfyngedig" meddai Billy Stephens, 47, wrth siarad ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales.
Fe fethodd ei arennau â gweithio pan oedd yn 33 oed ac fe gafodd chwe mis o ddialysis cyn iddo gael drawsblaniad a "achubodd tri bywyd" - bywyd ei wraig a'i ddau o blant hefyd, meddai.
"Mae pobl ar ddialysis yn ei chael hi'n anodd yn gorfforol a meddyliol. Byddai rhywbeth fel canolfan llesiant yn rhoi cyfle iddyn nhw fynd ar eu gwyliau, cael hoe a threulio amser gyda'u teuluoedd," meddai.
"Hyd yn oed ar eu dyddiau'n rhydd o ddialysis, gall pobl frwydro gyda'r effeithiau ac fe fydden nhw'n flinedig a sychedig. Fe fydde rhywle cyfagos yn gymorth mawr."
Dywedodd prif weithredwr Aren Cymru Roy Thomas fod y broses yn un galed ar y dioddefwyr a'u teuluoedd, gyda materion fel gwyliau, yswiriant, a pheirianau dialysis dramor yn codi, yn ogystal a'r pryder y gallai rhywbeth fynd o'i le.
"Mae'n cael ei anghofio weithiau, ond gall pobl deimlo'n ynysig ac mae'n gallu bod yn frwydr galed," meddai.
Bydd y daith gerdded yn ymweld â 25 o drefi ac fe fydd yn cymryd mis i'w chwblhau.
Os bydd cynllun y ganolfan llesiant yn gweld golau dydd, dyma fydd y ganolfan gyntaf nid-er-elw o'i bath yng Nghymru.