Parau adar y pâl yn cenhedlu mwy medd ymchwil

  • Cyhoeddwyd
Aderyn y pal

Mae parau o adar arbennig o Sir Benfro sydd yn "eneidiau hoff cytùn" yn golygu eu bod yn cenhedlu mwy, medd gwaith ymchwil gan brifysgol Rhydychen.

Roedd yr astudiaeth yn edrych i weld os oedd 12 pâr o adar y pâl Sgomer yn aros mewn cyswllt dros y gaeaf neu yn mudo ar wahan.

Dangosodd yr ymchwil eu bod yn tueddu i wahanu ar y dechrau ond yna yn dilyn patrymau tebyg ac yn dychwelyd yr un pryd.

Mae'r ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen yn dweud bydd yr ymddygiad yma yn golygu y bydd mwy o gywion yn cael eu geni.

Fe roddodd y tîm o bobl ddyfeisiadau tracio ar 12 pâr o adar y pâl oedd yn cenhedlu ar Ynys Sgomer am gyfnod o chwe blynedd.

Dywedodd awdur yr astudiaeth, Dr Annette Fayet, bod y dulliau technoleg sydd ar gael nawr yn golygu y bydd modd nid yn unig astudio lle mae adar yn mudo ond hefyd beth maen nhw yn gwneud yn y môr.