'Methiannau ar sawl lefel' i farwolaethau milwyr y Bannau
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad swyddogol i farwolaethau tri milwr yn dilyn ymarferiad hyfforddi'r SAS ym Mannau Brycheiniog yn 2013 wedi rhybuddio y gallai ddigwydd eto.
Bu farw'r Is-Gorpral Craig Roberts, 24, o Fae Penrhyn, Conwy, a'r Is-Gorpral Edward Maher, 31, ar 13 Gorffennaf, a hynny ar un o ddiwrnodiau poetha'r flwyddyn.
Fe fu farw'r Corpral James Dunsby, o Gaerfaddon, yn yr ysbyty yn ddiweddarach. Roedd y tri yn rhan o gwrs hyfforddi 16 milltir yr SAS.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd swyddogion wedi paratoi ar gyfer tywydd poeth a bod canllawiau iechyd a diogelwch yn annigonol ar y pryd.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn fod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu.
'Ansicrwydd cyffredinol'
Dywedodd adroddiad yr Asiantaeth Diogelwch Amddiffyn fod methiannau ar sawl lefel wedi arwain at y marwolaethau a bod ansicrwydd cyffredinol yn bodoli am waith y milwyr rhan amser, oedd yn golygu nad oedd neb wedi gofyn a oedd yr ymarferion caled yn addas ar eu cyfer.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad y gall y math yma o ddigwyddiad godi eto yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn cynnig eu cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd y tri fu farw, a'u bod wedi ymrwymo i weithredu canfyddiadau'r adroddiad er mwyn sicrhau na fydd digwyddiad o'r fath eto.
Mae'r adroddiad hefyd yn dod i'r casgliad fod newidiadau arfaethedig i'r unedau milwrol rhan amser wedi eu gwrthwynebu yn y gorffennol.
O ganlyniad roedd ansicrwydd am waith yr unedau hyn, oedd wedi arwain at ansicrwydd wrth greu cynllun hyfforddi i'r milwyr.
Roedd y milwyr wrth gefn felly yn cael eu gosod ar ymarferiadau hyfforddi ar gyfer milwyr llawn amser, a hynny heb gael eu paratoi'n raddol ar gyfer yr ymarferiadau.
'Trothwy uchel am risg'
Dywedodd yr adroddiad: "Fe fyddai'n hawdd dweud mai damwain yr oedd modd ei hosgoi oedd hon, ac mewn rhai ffyrdd dyna ddigwyddodd.
"Ond, gyda chymaint o ddamweiniau o'r math yma roedd 'na lusgo ar draws y gyfundrefn, oedd wedi dod yn gyffredin ac yn dderbyniol dros gyfnod o nifer o flynyddoedd.
"Roedd y teithiau cerdded yn cael eu gweld fel ffordd effeithiol iawn o agor y drws i'r broses o ddewis milwyr ond ni wnaeth unrhyw un ofyn y cwestiwn os oedd yn addas ar gyfer y milwyr wrth gefn, o ran eu dyletswyddau nag o ran rhoi digon o amser iddyn nhw baratoi.
"Gyda throthwy uchel am risg, diwylliant o beidio gofyn cwestiynau a dim herio annibynnol, does dim dwywaith fod y gyfundrefn wedi llithro tuag at fethiant yn yr ymarferiadau teithiau cerdded."
Ychwanegodd yr adroddiad ei bod yn debyg "na fydd y risg yma'n pylu nes bydd y canlynol yn cael sylw: fod y disgwyliadau sydd o'r unedau hyn yn cael eu diffinio'n eglur; bod llwybr hyfforddi eglur yn cael ei baratoi ar gyfer eu rôl amddiffynnol, ac fe ddylid ystyried datgysylltu hyfforddiant i unedau SMU o'r pencadlys."