Llafur eisiau gŵyl y banc ar ddydd Gŵyl Dewi
- Cyhoeddwyd
Mae'r blaid Lafur wedi dweud y bydden nhw'n creu pedair o wyliau banc newydd petaen nhw'n ennill yr Etholiad Cyffredinol.
Fe fyddai'r rheiny ar ddyddiau nawddsant y pedair gwlad.
Mae Jeremy Corbyn yn credu y byddai hyn yn "dathlu diwylliant cenedlaethol ein pedair cenedl".
Fel arfer mae gan Loegr a Chymru wyth o wyliau banc y flwyddyn, naw sydd gan yr Alban a 10 sydd gan Ogledd Iwerddon.
Mae Llafur yn dweud mai cyfartaledd gwledydd y G20 yw 12.
O dan y polisi newydd byddai llywodraethau'r gwledydd datganoledig yn cael penderfynu os y bydden nhw'n cymeradwyo'r gwyliau banc ychwanegol neu beidio.
Mae creu gwyliau banc yn un o'r pwerau sydd wedi ei ddatganoli yn yr Alban.
Dywedodd ffynhonnell o'r blaid Geidwadol: "Byddai economi Prydain ar wyliau parhaol pe byddai Mr Corbyn yn cyrraedd Downing Street."
Newyddion arall ynglŷn â'r ymgyrchu
Mae adroddiadau bod gan y Ceidwadwyr gynlluniau i gyfyngu ar filiau nwy a thrydan petaen nhw'n ôl mewn grym.
Mae cadeirydd y blaid Geidwadol, Syr Patrick McLoughlin wedi beirniadu record Jeremy Corbyn ar ddiogelwch gan ddweud na fyddai yn gallu gwneud "penderfyniadau anodd" pe byddai ymosodiad terfysgol yn digwydd.
Mae UKIP wedi dweud y bydd eu maniffesto nhw yn cynnwys addewid i wahardd y gorchudd wyneb llawn sy'n cael ei wisgo gan rai merched Moslemaidd.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron wedi dweud na fyddai'r blaid yn clymbleidio gyda'r blaid Lafur na'r Ceidwadwyr.
Dyw arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ddim wedi penderfynu eto a fydd hi'n sefyll fel Aelod Seneddol yn y Rhondda ond ei bod hi'n "ochri tuag at beidio". Mae'n dweud ei bod hi'n wynebu "penderfyniad anodd" ac y byddai yn rhaid iddi roi'r gorau i fod yn arweinydd y blaid pe byddai yn sefyll yn erbyn yr AS presennol, Chris Bryant o'r blaid Lafur.