Ateb y Galw: Catherine Tregenna

  • Cyhoeddwyd
cath

Catherine Tregenna sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei enwebu gan Sharon Morgan yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Mynd i dŷ f'ewyrth ar noswyl Nadolig yn Inkerman St, Llanelli a gwylio Billie Smart's Circus yn dair blwydd oed.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Paul Simon, Paul McCartney, Paul Michael Glaser. Patrwm? Pa batrwm?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Fi, Huw Ceredig a Rachel Thomas ar ran Pobol y Cwm yn ymddangos ar Wogan pan aeth mas yn fyw ac yn sylweddoli bo fe'n bwriadu neud ffyliaid ohonom ni. A sawl sefyllfa bersonol sydd yn mynd i aros dan glo yn yr ymennydd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Mae dagrau o hapusrwydd yn dod yn hawdd. Mae dagrau tristwch yn fwy amharod. Y tro diwethaf oedd gweld fy wyres wrth ei bodd yn gwylio Matilda yn y West End. Odd hi'n gwenu, fy merch a fi yn crio wrth gweld ei hapusrwydd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Methu dweud Na! Osgoi pobol on i methu dweud Na wrthyn nhw! Hefyd rhoi dau ateb yn lle un. See what I did there?

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Catherine i amlygrwydd fel actores tra'n chwrae rhan Kirstie McGurk yn Pobol y Cwm

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Cefn Sidian, traeth Penbre. Hudolus, fel rywbeth mas o sci-fi ac ar y trothwy.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mhenblwydd yn 50 llynedd yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Roedd fy mhartner Marc Davies yn chwarae Blues Rock a nes i wahodd lot o hen ffrindiau. Aduniad bendigedig gyda soundtrack anhygoel!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Byw mewn breuddwyd.

Beth yw dy hoff lyfr?

Unryw beth gan Carrie Fisher. Nawddsant salwch meddyliol gyda ffraethineb blasus a pheryglus.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Yasmin Alibhai-Brown. Dyle hi fod yn brif weinidog, mae hi mor ddoeth a deallus.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

X-Men Origins Wolverine am resymau proffesiynol. Dwi'n gweithio ar Stan Lee's Lucky Man ac yn 'neud ymchwil i genre y superhero. Rhaid cyfadde, nes i fwynhau yn fwy nag on i'n disgwyl 'neud. Watch this space ar gyfer arwr-anhygoel sy'n Gymreig!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Estyn yr oriau gyda'r bobol sy'n golygu gymaint imi, fy mhartner a fy nheulu, 'neud y pethau hyfryd a chyffredin ni wastad yn ei gymryd yn ganiataol. Cerdded ar y traeth, rannu straeon, chwerthin.

Dy hoff albwm?

OK Computer gan Radiohead.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catherine wedi sgwennu nifer o sgriptiau cyfresi poblogaidd fel Torchwood, Casualty, EastEnders a Doctor Who

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf bob tro. Does gen i ddim archwaeth mawr. Mae Tapas yn ddelfrydol i mi. Cyn belled bo' na wîn ar gael. Unrhywbeth gyda tomatos.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Patti Smith, icon, un o'r bobol mwya cŵl ar y blaned! (Heblaw am Iola Gregory!)

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Christine Pritchard