Cyhoeddi teithiau awyr o Faes Awyr Caerdydd i Qatar
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni hedfan Qatar Airways wedi cyhoeddi eu bod yn lansio teithiau o Faes Awyr Caerdydd i'r Dwyrain Canol.
Mae denu lleoliadau pellach wedi bod yn un o amcanion y maes awyr fel rhan o'i strategaeth i dyfu.
Mae awyrennau eisoes yn hedfan o Gaerdydd i Orlando, a bydd Qatar Airways yn hedfan i brifddinas Qatar, Doha o 2018.
Fe wnaeth dros 1.3 miliwn o bobl ddefnyddio'r maes awyr ym Mro Morgannwg yn 2016 - cynnydd o 16% yn nifer y teithwyr.
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Hamad yn Doha yn ganolfan i Qatar Airways, gyda chysylltiadau yno i leoliadau fel Awstralia a China.
'Darparu cyfleoedd'
Dywedodd prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Deb Barber ei bod wedi bod yn "daith hir i gyrraedd y man yma" a bod y trafodaethau wedi cymryd "blynyddoedd".
"Dros y misoedd nesaf byddwn yn gweithio gyda Qatar Airways i gadarnhau manylion y gwasanaeth, a ry'n ni'n edrych ymlaen i'r daith fod ar werth yn fuan," meddai.
Mae'r maes awyr, gafodd ei brynu gan Lywodraeth Cymru yn 2013 am £52m, eisoes yn hedfan i 50 o leoliadau.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones bod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych i Faes Awyr Caerdydd ac i Gymru".
"Bydd y llwybr newydd, a'r berthynas rhwng Maes Awyr Caerdydd a Qatar Airways, yn agor cysylltiadau i Gymru â gweddill y byd a darparu cyfleoedd teithio, economaidd, ac hamdden newydd i fusnesau a phobl Cymru," meddai.