'Diffygion' wrth gyllido Cylchffordd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Circuit of Wales artist impressionFfynhonnell y llun, Circuit of Wales
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r gylchffordd

Roedd yna 'ddiffygion sylweddol' yn y modd y cafodd £9.3m o arian trethdalwyr ei wario ar gynlluniau trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy, medd adroddiad swyddogol.

Daw adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wrth i Lywodraeth Cymru barhau i bwyso a mesur a ddylen nhw fod yn gyfrifol am warantu dros £200m o arian cyhoeddus fyddai ei angen ar gyfer y prosiect.

Yn ôl y Swyddfa Archwilio, roedd yna wallau yn y modd y ceisiodd Llywodraeth Cymru "reoli'r risgiau perthnasol i arian y trethdalwyr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi eu synnu a'u siomi gan yr addroddiad, gan na chafodd sylw ei roi "i nifer o bryderon allweddol ynghylch cynnwys a chasgliadau'r adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi."

Mae cyfarwyddwyr Cylchffordd Cymru yn dweud fod yr adroddiad yn dangos fod honiadau o gamddefnyddio arian cyhoeddus yn ddi-sail.

Torri rheolau?

Mae'r adroddiad wedi ysgogi galwadau gan rai am ymchwiliad i weld a dorrodd gweinidogion Bae Caerdydd reolau'r Undeb Ewropeaidd ar ddefnyddio arian cyhoeddus wrth gefnogi busnesau yn y sector preifat.

Dywed Cylchffordd Cymru fod yr adroddiad yn ei gwneud yn glir na chafodd rheolau eu torri.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn pwyso a mesur manylion y prosiect £425m yng Nglyn Ebwy cyn penderfynu a ddylid rhoi mwy o gefnogaeth i'r fenter.

Yn ogystal â'r gylchffordd rasio beiciau modur, mae'r cynllun nawr yn cynnwys llwybrau beiciau mynydd, parc BMX, safle sgïo dan do a lle ar gyfer cyngherddau.

Dywed y cwmni y byddai'n creu 6,000 o swyddi ac yn denu 750,000 o ymwelwyr bod blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cwmni y byddai'r cynllun yn creu 6,000 o swyddi

Hyd yn hyn, mae Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd (CDBC) wedi derbyn £9.3m o arian y trethdalwyr mewn benthyciadau a chymorthdaliadau.

Dywed adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fod gwallau yn y modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru "arfarnu'r wybodaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniadau cyllido."

"Gan mwyaf, bu i Lywodraeth Cymru ddilyn gweithdrefnau sefydledig i gefnogi penderfyniadau gan Weinidogion, ond cafodd rhywfaint o'r wybodaeth allweddol ei hepgor o'r papurau a gyflwynwyd iddynt. "

Fe wnaeth bron i hanner yr arian fynd i naw cwmni neu unigolion oedd â pherthynas agos â chyfranddalwyr CDBC.

Yn ôl yr adroddiad, fe gafodd y taliadau sêl bendith y llywodraeth "heb ddigon o dystiolaeth bod y gwasanaethau a ddarparwyd i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd yn rhoi gwerth am arian."

'Ddim gyson â dibenion y cynllun grant'

Fe aeth bron i £1m i gwmni Aventa, cwmni oedd yn eiddo i brif weithredwr (CDBC), Michael Carrick.

Ond mae'r adroddiad yn dweud mai cwmni Aventa, ac nid arian cyhoeddus nac arian CDBC, oedd yn gyfrifol am wariant o £35,000 ar ardd Mr Carrick yn Sir Caergrawnt a £4,000 arall ar hybu digwyddiadau gwleidyddol.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod grant o £2m a ddyfarnwyd i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd yn cynnwys £300,000 i gaffael y cwmni peirianneg beiciau modur, FTR Moto Ltd, ac "nad oedd hyn yn gyson â dibenion y cynllun grant.

"Ni fu modd i Lywodraeth Cymru egluro mewn ffordd sy'n bodloni'r Archwilydd Cyffredinol pam y bu iddi ganiatáu i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd ddefnyddio grant datblygu eiddo i gaffael cwmni peirianneg beiciau modur yn Sir Buckingham.

"Cafodd yr arian a drosglwyddwyd i FTR ei ddileu'n ddiweddarach yng nghyfrifon Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd ac yna, ym mis Hydref 2016, aeth FTR i ddwylo'r gweinyddwyr."

Fe ddechreuodd Swyddfa Archwilio Cymru ar ei gwaith ar ôl i AS Mynwy David Davies leisio pryderon, gan ofyn a oedd y cynllun Glyn Ebwy yn dal dŵr.

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi wedi dweud y bydd e'n cynnal archwiliad manwl o'r cynlluniau cyn penderfynu a ddylid rhoi arian y trethdalwyr i warantu'r prosiect.

Dywed y datblygwyr y bydd £430m o'r arian angenrheidiol yn dod o'r sector preifat, ond maen nhw eisiau i'r trethdalwyr warantu tua £210m.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol fis nesa.

Mae gweinidogion Bae Caerdydd eisoes wedi gwrthod dau gais blaenorol gan y cwmni i warantu'r cynllun.

Disgrifiad,

Ewch ar daith o gwmpas y gylchffordd

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Gall defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi prosiectau seilwaith preifat yng Nghymru helpu i roi hwb i waith adfywio a datblygu economaidd.

"O wneud hyn, rhaid rheoli cyllid cyhoeddus mewn ffordd gadarn, gan arddel safonau priodol o ran craffu, gwyliadwriaeth a throsolwg.

"Yn achos Cylchffordd Cymru, mae'n anffodus ein bod wedi cael hyd i ddiffygion sylweddol, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o'r adroddiad, yn enwedig os bydd yn penderfynu darparu unrhyw gymorth pellach er mwyn i'r prosiect fynd rhagddo."

Yn ôl Nick Ramsay, cadeirydd pwyllgor Cyllid Cyhoeddus y Cynulliad, yr adroddiad yw'r "esiampl ddiweddara' o'r modd gwael mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin ag arian cyhoeddus ar gyfer y sector preifat."

'Synnu a siomi'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi synnu a'u siomi gyda phenderfyniad Archwilydd Cyffredinol Cymru i gyhoeddi'r adroddiad yn y cyfnod cyn yr etholiadau.

"Rydym hefyd yn siomedig nad oes sylw wedi'i roi i nifer o bryderon allweddol ynghylch cynnwys a chasgliadau'r adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi.

"Mae gofyn i ni, fel Llywodraeth, ysgwyddo lefelau uwch o risg er mwyn cefnogi cwmnïau a phrosiectau na'r hyn a fyddai'n dderbyniol i'r sector preifat. Mae Cylchffordd Cymru'n brosiect cymhleth, ond rydym yn fodlon ein bod wedi asesu'r risg ar sail y gwerth am arian i'r trethdalwr ac rydym hefyd wedi ceisio'r sicrwydd mwyaf posibl gan y datblygwr.

"Cafodd y cyllid ei ddyfarnu i Gylchffordd Cymru er mwyn helpu i ddatblygu'r achos busnes ar ei chyfer, er mwyn sicrhau caniatâd cynllunio ar ei chyfer a hefyd er mwyn ceisio sicrhau cyllid preifat."

Dywedodd llefarydd ar ran Cylchffordd Cymru fod yr adroddiad yn dangos yn glir fod cynlluniau'r prosiect wedi cyd-fynd â'r rheolau a "bod enw da'r cyfarwyddwr wedi ei adfer yn sgil honiadau anghywir am y camddefnydd o arian cyhoeddus.

"Mae'r adroddiad yn dangos ein bod wedi gweithredu o fewn canllawiau masnachu confensiynol a'n bod wedi glynu yn ofalus a gweithredu ar gyngor ar wariant gafodd ei ddarparu gan swyddogion Llywodraeth Cymru," meddai'r llefarydd.