Cynghrair y Pencampwyr: Profi technoleg adnabod wynebau

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Stadiwm Principality yn cael ei ailenwi yn Stadiwm Genedlaethol Cymru ar gyfer yr ornest

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod nhw'n bwriadu defnyddio technoleg adnabod wynebau yn ystod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.

Byddai wynebau cefnogwyr pêl-droed yn cael eu sganio yn Stadiwm Principality a'r orsaf drenau yng nghanol y ddinas.

Fe fyddan nhw wedyn yn cael eu cymharu â 500,000 o 'luniau dan glo' sydd wedi eu cadw gan luoedd heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru mai'r bwriad oedd "cadw pobl yn saff yn ystod cyfnod prysur iawn i Gaerdydd".

Ymgyrchwyr yn cwestiynu

Cafodd adroddiad ar y cynllun ei gyhoeddi gyntaf gan wefan dechnoleg Motherboard, oedd yn dangos fod y cytundeb werth £177,00.

Mae disgwyl i tua 70,000 o gefnogwyr fod yn y stadiwm ar gyfer y gêm ar 3 Mehefin, ac mae'r ddinas yn paratoi ar gyfer rhyw 100,000 o ymwelwyr ychwanegol ar y diwrnod.

Mae ymgyrchwyr preifatrwydd wedi beirniadu'r cynllun fodd bynnag, gan gwestiynu beth fydd yn cael ei wneud â'r data fydd yn cael ei gasglu yn ystod y digwyddiad.

"Dyw hyn ddim jyst am y gêm ei hun, ond yr orsaf a chanol y ddinas," meddai Paul Bernal, darlithydd cyfraith TG ym Mhrifysgol East Anglia.

"Ai'r bwriad yw y dylai fod yn norm ym mhob sefyllfa?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Real Madrid, tîm Gareth Bale, eisoes wedi cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth

Cadarnhaodd prif uwch arolygydd Heddlu'r De, Jon Edwards, fydd yn gyfrifol am blismona adeg y rownd derfynol, eu bod wedi derbyn arian gan y Swyddfa Gartref i ddatblygu'r dechnoleg adnabod wynebau.

"Bydd rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd yn rhoi cyfle unigryw i ni brofi'r math yma o dechnoleg mewn amgylchedd gweithredol byw, fydd gobeithio yn profi manteision a defnydd y math yma o dechnoleg ar draws plismona.

"Dyma fydd un o'r ymgyrchoedd diogelwch mwyaf erioed ym mhrifddinas Cymru, a bydd defnydd y dechnoleg yn cefnogi gwaith yr heddlu wrth geisio cadw pobl yn saff yn ystod cyfnod prysur iawn i Gaerdydd."