Chwaraewr rygbi o Gymru wedi marw ar daith yn Sbaen
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr rygbi poblogaidd a fu farw ar Ynys Mallorca.
Roedd Luke Hole, 29, yn chwarae mewn cystadleuaeth rygbi saith pob ochr ar draeth ym Magaluf gydag aelodau o glwb Pont-Y-Clun.
Fe gafodd corff Mr Hole ei ddarganfod mewn gwesty fore Llun.
Yn dilyn ymdrechion ei ffrindiau i'w ddeffro cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac fe gadarnhawyd fod Mr Hole wedi marw.
Mae nifer o'i ffrindiau wedi talu teyrngedau iddo ar wefan Facebook.
Disgrifiodd un person Mr Hole fel dyn oedd yn "ymroddgar i'w ffrindiau ac yn llawn bywyd... mae pawb wedi torri eu calonnau".
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn "cefnogi teulu dyn o Brydain yn dilyn marwolaeth ym Mallorca, Sbaen".