Byddai twnnel M4 yn lle ffordd liniaru yn 'costio £10bn'

  • Cyhoeddwyd
Yr M4 yn nhwnneli BrynglasFfynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn honni nad yw traffordd yr M4 o amgylch Casnewydd yn "ateb y gofyn"

Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y byddai'r cynllun i godi twnnel yn lle ffordd liniaru yr M4 yn costio bron i £10bn.

Bwriad y llywodraeth yw codi ffordd liniaru chwe lôn gwerth £1.1bn i'r de o Gasnewydd er mwyn ysgafnhau'r tagfeydd traffig presennol ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach.

Ddiwedd Chwefror fe ddechreuodd yr ymchwiliad cyhoeddus i'r cynlluniau i adeiladu'r ffordd newydd 15 milltir.

Mae'r cynnig ar gyfer y twnnel 10 milltir wedi cael ei gyflwyno gan un o'r trigolion lleol.

Dewis amgen

Mae trigolion wedi cyflwyno naw dewis amgen - mae'r dewisiadau amgen eraill wedi cael eu cyflwyno gan y rhai sy'n gwrthwynebu cynllun yr M4.

Fe fyddai'r twnnel yn dechrau ger cyffordd 23A ar draffordd bresennol yr M4 ym Magwyr, gan fynd o dan safle dur Llanwern a dociau Casnewydd a byddai'n dod nôl i lefel y tir yn Nyffryn ger Casnewydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru byddai twnnel yn costio oddeutu £9.8 biliwn, a dyma fyddai un o'r prosiectau trafnidiaeth drytaf ym Mhrydain.

Byddai twnnel, meddai'r llywodraeth, yn "costio mwy ac mi fyddai'r costau cynnal a chadw yn fwy" na'r costau a fyddai ynghlwm â'r ffordd liniaru. Y bwriad yw agor y ffordd yn 2021.

Disgrifiad,

Fideo yn dangos llwybr posib ffordd liniaru yr M4

Byddai gan ffordd y llywodraeth gyffyrdd yng Nglan Llyn, ger gwaith dur Llanwern ac yn nociau Casnewydd.

Fydd gan y twnnel ddim cyfnewidfeydd yn y canol ac fe fyddai hynny, medd y llywodraeth, yn "ei gwneud hi'n fwy anodd bod fewn cyrraedd i Gasnewydd ac yn lleihau'r budd i ddefnyddwyr".

Mae'r llywodraeth yn cydnabod y byddai'r cynllun yn cael llai o effaith amgylcheddol ar y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar Wastadeddau Gwent na'r ffordd liniaru, ond maen nhw'n dweud y byddai'r effaith yn ystod codi'r twnnel yn fawr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y draffordd bresennol o gwmpas Casnewydd wedi agor yn 1967 ond nad yw hi'n "addas bellach ar gyfer y gofyn".

Mae busnesau yn dweud bod y tagfeydd traffig rheolaidd o gwmpas twneli Brynglas yn cael effaith ar economi Cymru.

Y llwybr glas

Ar hyn o bryd mae manylion cynlluniau amgen i gynllun y llywodraeth yn cael eu clywed mewn ymchwiliad cyhoeddus.

Ddydd Mercher bydd yr Athro Stuart Cole yn cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad gan gynnig ffordd ratach, sef y llwybr glas ar gost o £776m, ar ran Cycling UK.

Mae'r cynllun hwnnw yn argymell uwchraddio'r ffordd ddosbarthu ddeuol o gwmpas Casnewydd i'r un safon â thraffordd, a hefyd uwchraddio'r ffordd fynediad i'r gwaith dur rhwng Spyty a Magwyr.

Bydd perchnogion dociau Casnewydd a gwasanaethau Magwyr hefyd yn rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad, gan hybu'r ffyrdd amgen sy'n cael eu hawgrymu ganddyn nhw. Mae eu cost nhw'n amrywio o £1bn i £1.5bn.

Dadl busnesau cyfagos yw y bydd cynllun Llywodraeth Cymru yn difetha eu busnes.