Dyn yn cyfaddef achosi marwolaeth dau drwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
LLys y Goron y Wyddgrug

Mae dyn o Sir Stafford sydd wedi cyfaddef achosi marwolaeth cwpwl o Sir y Fflint drwy yrru'n beryglus yn wynebu "cyfnod sylweddol yn y carchar", yn ôl barnwr.

Fe wnaeth Shaun Goldstraw, 21 oed, o Leek, bledio'n euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron y Wyddgrug, ddydd Gwener, i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth Tracy Louise Haley, 49, a Darren Lowe,43, o Fagillt, Sir y Fflint, a hynny drwy yrru'n beryglus ar ffordd yr A543 ger Pentrefoelas.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar 27 Chwefror y llynedd rhwng car Renault Clio Mr Goldstraw a Mercedes SLK y cwpwl.

'Wynebu carchar'

Cadarnhaodd y gwasanaethau brys fod Ms Haley wedi marw yn y fan ar lle, a bu farw Mr Lowe fis yn ddiweddarach o ganlyniad i'w anafiadau.

Fe ddioddefodd Goldstraw anafiadau i'w ben yn y gwrthdrawiad a dywedodd y barnwr y byddai'n "wynebu cyfnod sylweddol yn y carchar."

Ychwanegodd y barnwr y byddai'n cymryd i ystyriaeth y ffaith bod Goldstraw wedi pledio'n euog yn gynnar a bydd hynny yn cael ei "adlewyrchu yn y ddedfryd".

Mae Goldstraw wedi'i ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Mehefin.