Gorymdaith i alw am gyfreithloni clybiau canabis

  • Cyhoeddwyd
Clybiau Canabis
Disgrifiad o’r llun,

Fe orymdeithiodd tua 300 o bobl drwy Gaerdydd

Fe ddaeth tua 300 o bobl at ei gilydd yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn i gefnogi'r alwad i gyfreithloni clybiau canabis.

Roedden nhw'n galw am roi'r hawl i bobl gael ysmygu'r cyffur mewn lleoliadau trwyddedig.

Ond rhybuddiodd prif weithredwr elusen cyffuriau ac alcohol, Cais, Clive Wolfendale, y gall canabis fod yn "gyffur cryf iawn".

"Mae pobl yn dal i cysylltu canabis â chyfnod hipïaidd y 1960au, ond mae'r gwirinonedd heddiw'n whanol iawn."

"Gall canabis fod yn gyffur cryf iawn, iawn, 10-20 gwaith mor gryf ag yr oedd yn arfer bod, ac mae'n gallu cael ei gymryd mewn sawl ffordd wahanol.

"Felly mae'n fater gwahanol iawn i'r hyn mae pobl yn ei ragdybio."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai cyfreithloni clybiau cyffuriau yn ffordd o reoleiddio'r cyffur yn well, medd Al Burrell

Mae Al Burrell, un o drefnwyr yr orymdaith, eisiau i ganabis gael ei gyfreithloni ond ei reoleiddio hefyd.

Yn ei farn e, byddai cael clybiau canabis yn "ffordd lawer fwy diogel i ddefnyddwyr canabis a gweddill cymdeithas, na'r farchnad ddu sy'n bodoli ar hyn o bryd oherwydd cyfraith gyffuriau'r DU".

"Mae yna stigma felly dyw pobl ddim yn gallu cyfaddeg eu bod nhw'n cymryd canabis, dydyn nhw ddim yn gallu cael gafael ar y math iawn sy'n cael eu cynhyrchu yn y ffordd iawn.

"Mae pobl yn cael eu cosbi'n eitha llym, maen nhw'n colli eu swyddi, eu gyrfaoedd, eu teuluoedd, a dyw hynny ddim yn iawn, mae'n rhaid i bethau newid."