Cymry'r Eurovision
- Cyhoeddwyd
![Mae gobeithion y Du yn Eurovision eleni yng ngofal Lucie Jones o Bentyrch](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/142E0/production/_95965628_38ea17f1-03aa-46ec-acb8-5fd3fce2444b.jpg)
Lucie Jones
Mae hi'n wythnos Eurovision unwaith eto gyda gobeithion y DU yn nwylo Lucie Jones o Bentyrch ger Caerdydd.
Daeth hi i'r amlwg fel cantores wrth gyrraedd rowndiau terfynol X Factor yn 2009.
Never Give Up On You ydy'r gân fydd y Gymraes yn ei chanu yn y rowndiau terfynol yn Kiev, prifddinas yr Iwcraen.
Katrina and the Waves oedd y cystadleuwyr olaf o'r DU i ennill Eurovision gyda Love Shine a Light ugain mlynedd yn ôl. Ers hynny, does 'na fawr o gariad Ewropeaidd wedi ei ddangos tuag at ymdrechion Prydeinig yn y gystadleuaeth.
Er bod Lucie wedi creu argraff dda hyd yn hyn, mae 'na ambell un yn credu y bydd Brexit yn dylanwadu ar bleidleisiau rhai o'r gwledydd sy'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Ond rhaid aros yn bositif!
Dyma i chi rai o gysylltiadau Cymreig eraill y gystadleuaeth dros y blynyddoedd:
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Cusan fuddugol yn '76
Nicky Stevens o Gaerfyrddin yw'r unig un o Gymru (hyd yma!) i brofi llwyddiant yn yr Eurovision. Roedd Nicky yn aelod o Brotherhood of Man ganodd y gân Save Your Kisses for Me. Mae'r grŵp yn dal i deithio yn rheolaidd hyd heddiw ac mae Nicky yn dal i chwifio'r Ddraig fel un o'r aelodau gwreiddiol.
![Brotherhood of Man](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/135DF/production/_89672397_0407806a-74b0-4387-bbed-4b773efa075d.jpg)
Nicky Stevens (ail o'r chwith) gyda Brotherhood of Man enillodd yr Eurovision yn 1976
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Cymraes yn cnocio'r drws yn '70
Mary Hopkin o Bontardawe oedd y cystadleuydd cyntaf o Gymru i ymddangos ar lwyfan Eurovision. Hi oedd y ffefryn i ennill yn 1970 gyda'r gân Knock Knock Who's There? Ond y Wyddeles, Dana aeth a hi trwy ganu All Kinds Of Everything. Roedd yna rhywfaint o gysur i'r Gymraes gan bod Knock Knock Who's There?yn sengl boblogaidd yn y siartiau ar draws Ewrop ac America gan gyrraedd rhif 2 yn siart y DU.
![Mary Hopkin yn perfformio yn 1970](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/183FF/production/_89672399_12bc5651-269f-4104-8de4-3127302272d6.jpg)
Mary Hopkin yn perfformio yn 1970
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Ball bron ar y bêl yn '92
Mae Michael Ball yn falch o'i wreiddiau Cymreig er mai yng nghanolbarth Lloegr y cafodd o'i eni. Roedd o'n cynrychioli y DU yn yr Eurovision yn 1992 yn Mälmo, Sweden gyda'r gân One Moment in Time. Ond penderfynodd y gwylwyr nad oedd amser y gân wedi cyrraedd ac fe ddaeth o'n ail. Why Me? gan Linda Martin enillodd. O ba wlad yr oedd hi'n dod? Ie, Iwerddon. Yn digwydd bod hefyd cafodd y gân fuddugol ei chyfansoddi gan Johnny Logan enillodd i'r Ynys Werdd yn 1980 ac yn 1987. Mae'r Gwyddelod 'ma yn cael hwyl arni hi yn yr Eurovision!
![Michael Ball ifanc gyda'r diweddar Terry Wogan yn hyrwyddo Eurovision '92](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/955D/production/_89673283_9c826d20-3c10-43d7-aac5-f1e80d6f7d46.jpg)
Michael Ball ifanc gyda'r diweddar Terry Wogan yn hyrwyddo Eurovision '92
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Je suis Gallois
Yn 1996 Gina G oedd yn cynrychioli y Deyrnas Unedig, ond a oedd 'na gysylltiad Cymreig y flwyddyn honno? Oedd, Ooh...Aahhh...Just a Little Bit, gan bod Elaine Morgan o Gaerdydd yn canu i... Ffrainc! Roedd hi'n aelod o'r grwp celtaidd Dan Ar Braz & L'Héritage des Celtes. Hwn oedd y tro cyntaf i gân yn rownd derfynol yr Eurovision gael ei chanu mewn Llydaweg. Dim ond dix huit o bwyntiau gawson nhw gan orffen yn 19eg. Gesiwch pwy enillodd? Ie'r Gwyddelod 'na eto! Eimear Quinn yn canu The Voice.
![Elaine Morgan o Gaerdydd yn canu 'Diwanit Bugale' i Ffrainc!](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15FD4/production/_89686009_2e432034-7b96-4160-9862-cdff04fb66ec.jpg)
Elaine Morgan o Gaerdydd yn canu 'Diwanit Bugale' i Ffrainc!
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Jess mewn pryd
Roedd Jessica Garlick yn ferch ysgol ym Mhorth Tywyn pan lwyddodd hi i gael llwyddiant ar gystadlaethau canu ar y teledu gan gynnwys Pop Idol a My Kind of Music. Yn 2002 cafodd hi ei dewis i gynrchioli y DU yn yr Eurovision yn Talinn, Estonia. Daeth hi'n drydydd gyda'r gân Come Back.
![Jessica Garlick](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E5D6/production/_89683885_59e9cc1b-7c97-440c-8ced-91f28642c5d0.jpg)
Jessica Garlick yn canu 'Come Back'
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Torcalon i Bonnie
Roedd Bonnie Tyler yn boblogaidd ar draws Ewrop cyn Eurovision 2013 gyda chaneuon fel Total Eclipse of the Heart a It's a Heartbreak yn cyrraedd brig y siartiau ar y cyfandir. Believe in Me oedd y gân roedd y gantores o Sgiwen yn ei chanu yn Sweden. Ond, doedd gan y gwrandawyr Ewropeaidd ddim llawer o ffydd yn y gân - 19 oedd hi allan o 23 yn y rownd derfynol neu falle fod pledleisiau Bonnie Lost in France?
![Bonnie yn gwenu'n arwrol yn Eurovision 2013](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/158AD/production/_89673288_dd7c26d4-5a4a-4388-aa9d-8f65c4c1c794.jpg)
Bonnie yn gwenu'n arwrol yn Eurovision 2013
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Awstralia, Armenia a Chymru
Cafodd y gantores opera ei geni yn Texas a'i magu yn Awstralia, ond cynrychioli Armenia wnaeth Mary-Jean O'Doherty yn Vienna yn 2015. Beth yw'r cysylltiad Cymreig? Mae Mary yn byw yng Nghaerdydd ac wedi dysgu Cymraeg. Daeth Face The Shadow yn 16eg yn y rownd derfynol ond wnaeth hynny ddim taflu cysgod dros fwynhad y gantores.
![Mary-Jean O'Doherty](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2415/production/_89673290_a4005112-1d16-4e32-af4b-3496f3a28176.jpg)
Mary-Jean O'Doherty
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Hen dro, Joe
You're not Alone oedd y gân gafodd ei chanu gan Joe Woolford o Rhuthun a'i gyfaill Jake Shakeshaft o Stoke y llynedd yn Stockholm, Sweden, a doedden nhw ddim ar eu pennau eu hunain wrth i'r pleidleisio 'gwleidyddol' traddodiadol fynd yn eu herbyn. Dim ond wyth o bwyntiau gawson nhw er bod 'na ganmoliaeth fawr i'w perfformiad yn y rownd derfynol.
![Joe Woolford o Rhuthun a Jake Shakeshaft fydd yn cynrychioli'r Du nos Sadwrn yn yr Eurovision](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3A3B/production/_89670941__88471513_img_4081.jpg)
Joe Woolford o Rhuthun a Jake Shakeshaft oedd yn cynrychioli'r DU yn Eurovision 2016