Oedi ar benderfyniad atyniad mewn hen felin yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cynlluniau i droi melin o'r 19eg Ganrif yn Sir Benfro yn atyniad treftadaeth yn cael eu hailystyried yn dilyn adroddiad beirniadol.
Mae Bluestone, sy'n rhedeg pentref gwyliau yn yr ardal, am greu'r atyniad £2.5m gyda rheilffordd stêm gul ym Melin Pwll Du, Martletwy.
Ond dywedodd adroddiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro y byddai'r cynlluniau yn cael "effaith niweidiol" ar yr ardal.
Mae'r penderfyniad ynglŷn â'r cynlluniau wedi cael ei ohirio ar gais yr ymgeisydd.
Swyddi
Dywedodd Bluestone y byddai'r cynllun yn creu 60 o swyddi, ac yn cyfrannu tuag at yr economi leol.
Roedd y felin, sy'n adeilad cofrestredig Gradd II ac sy'n dyddio'n ôl i 1813, yn weithredol hyd nes yr Ail Ryfel Byd.
Mewn asesiad, disgrifiodd swyddog cynllunio'r cynigion i adeiladu'r rheilffordd fel "ychydig mwy nag atyniad parc thema, heb unrhyw gysylltiad gwirioneddol i hanes yr ardal".
Mae Bluestone wedi cadarnhau eu bod wedi gofyn i'r penderfyniad gael ei ohirio nes dyddiad arall yn y dyfodol.