Prifysgol Bangor yn 'ddelfrydol' am ysgol feddygol
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Bangor mewn "sefyllfa ddelfrydol" i ymateb i'r galw am ysgol feddygol yn y gogledd, yn ôl un o brif feddygon y coleg.
Dywedodd Yr Athro Dean Williams mewn adroddiad newydd fod "angen atebion newydd" i ateb y galw am feddygon yn yr ardal.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd penderfyniad am y mater o fewn wythnosau.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan AC Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sy'n cefnogi lleoli safle newydd ym Mangor ac sy'n dweud bod hi'n bryd i'r llywodraeth weithredu.
120 lle hyfforddi newydd?
Mae'r adroddiad newydd, Delio â'r Argyfwng - Ysgol Feddygol Newydd i Gymru, yn amlinellu'r ddadl o blaid hyfforddi meddygon ym Mangor - a hynny er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg meddygon mewn ardaloedd gwledig.
Yn y ddogfen, mae'r Athro Williams, pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol y brifysgol, yn dweud bod angen 120 lle hyfforddi ychwanegol ar gyfer myfyrwyr meddygol i ateb y galw.
"Mae gwledydd eraill eisoes yn ehangu eu hysgolion meddygol i ddiwallu anghenion y dyfodol a'r prinder meddygon, yn enwedig meddygon teulu," meddai.
"Wrth ymateb i anghenion gwledig, mae profiad rhyngwladol yn awgrymu nad ydi ychwanegu at y strwythurau presennol yn gweithio.
"Mae angen atebion newydd. Byddai campws meddygol gwledig yn darparu ar gyfer anghenion penodol y rhanbarth."
Ychwanegodd: "Mae Prifysgol Bangor mewn sefyllfa ddelfrydol i feithrin a recriwtio myfyrwyr o Gymru wledig ac o gymunedau Cymraeg eu hiaith.
"Mae'r dystiolaeth gan ddisgyblion ysgol yn awgrymu y byddent yn cael eu denu i ysgol feddygol yn y rhanbarth."
Dywedodd Siân Gwenllian, sy'n cynrychioli etholaeth Arfon yn y Cynulliad, bod angen cyhoeddiad cyn hir.
"Mi ydan ni yn wynebu argyfwng yng Nghymru o safbwynt meddygol, ac mae'r syniad o gael ysgol feddygol arall yn mynd peth o'r ffordd tuag at ddechrau delio efo'r argyfwng yna," meddai.
"Mae diffyg cynllunio Llywodraeth Cymru ar hyd y blynyddoedd yn fy mhryderu i'n fawr, a dwi'n teimlo rŵan ei bod hi'n amser i wneud cyhoeddiad pwysig ynglŷn â chael ysgol feddygol arall yng Nghymru."
Dywedodd Prifysgol Bangor ei bod yn "barod i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor os mai dyna yw eu bwriad".
Ychwanegwyd: "Mae'n hanfodol fod unrhyw ddatblygiad o'r fath yn cael ei ariannu yn llawn, a bod yr Ysgol yn gynaliadwy o ran adnoddau, staffio a chyllid."
'Penderfyniad yn yr wythnosau nesaf'
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym eisoes yn edrych ar y ddarpariaeth yn y gogledd o ran addysg a hyfforddiant meddygol, ac mae hynny'n cynnwys yr achos o blaid ysgol feddygol newydd.
"Rydym yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi ein penderfyniad yn ystod yr wythnosau nesaf."
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y bydden nhw'n croesawu ysgol feddygol yn y gogledd os yw'n gynaliadwy, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod rhaid mynd at wraidd y trafferthion recriwtio.
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP: "Mae UKIP yn cefnogi cael ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru. Maen rhaid hyfforddi mwy o bobl yng Nghymru er mwyn helpu i ddatrys yr argyfwng meddygon teulu presennol."