Dim profiad gwaith i ddisgyblion uwchradd Gwynedd a Môn
- Cyhoeddwyd
Ni fydd mwyafrif o ysgolion uwchradd yng Ngwynedd a Môn yn gallu cynnig lleoliadau profiad gwaith i ddisgyblion eleni, gan nad oes gan ysgolion staff i wirio diogelwch y lleoliadau.
Roedd y gwaith o wirio'r lleoliadau yn cael ei wneud yn y gorffenol gan Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ond fe ddaeth y cytundeb hwnnw i ben yn 2015.
O ganlyniad ysgolion oedd yn gorfod gwirio lleoliadau profiad gwaith.
Ond eleni fydd Awdurdodau Gwynedd a Môn ddim yn cynnig profiad gwaith i ddisgyblion, o achos y niferoedd uchel o leoliadau oedd angen eu gwirio ac "nid oedd staff a'r hyfforddiant addas i wneud y gwaith".
Dywedodd penaethiaid fod yr un penderfyniad eisoes wedi ei wneud ar draws gweddill awdurdodau'r gogledd a mwyafrif o awdurdodau Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod llawer o ffyrdd y gall ysgolion ddarparu gweithgareddau i ddisgyblion i'w helpu a gwella eu dealltwriaeth o'u gallu ym myd gwaith.
Siom i rieni
Mae'r cyhoeddiad gan gynghorau Gwynedd a Môn wedi dod fel siom i nifer o rieni yn y gogledd orllewin.
Mae Owain Evans yn rhiant i ddisgybl sydd ym mlwyddyn 12 yn Ysgol David Hughes ar Ynys Môn, ac roedd ei fab i fod i fynd ar brofiad gwaith at gwmni cyfreithiol.
Fel pensaer yn Llangefni, mae Mr Evans yn derbyn pobl ifanc ar brofiad gwaith i'w swyddfa hefyd, ac mae'n credu fod y profiad yn un hynod werthfawr:
"Dwi'n meddwl fy mod i'n reit siomedig - drosto ni'n hunain fel cyflogwyr a hefyd y plant. Mae'n gwneud cysylltiad hefo diwydiant.
"Mae'r cyflogwyr - dyma ydi'n dyfodol ni, ydi pobl ifanc sy'n dod ato ni.
"Yn aml iawn mae na bobl wedi dod ato ni a maen nhw wedyn wedi penderfynu ar eu gyrfaoedd o fewn pensaerniaeth a dwi'n siwr fod o'r un peth i lot o gyflogwyr.
"Beryg fod y disgyblion y flwyddyn yma wedi colli allan - mae'r penderfyniad wedi ei wneud yn barod...all plant yr oed yma ddim mynd ar brofiad gwaith am awr ar ôl yr ysgol.
"Dwi'n meddwl fod o'n angenrheidiol fod o'n cael ei ail-gyflwyno."
Mae cynghorau Gwynedd a Môn wedi cyhoeddi nad oes ganddyn nhw'r staff gyda'r hyfforddiant addas i wneud y gwaith o wirio lleoliadau, ac o ganlyniad ni fydd profiad gwaith yn cael ei gynnig yn y mwyafrif o achosion gan fod y ddau gyngor yn "rhoi diogelwch cyn popeth arall."
Mae'n debyg y bydd rhai ysgolion yn gwneud trefniadau unigol ar gyfer darparu profiad gwaith i'w disgyblion, ond penderfyniad y ddau gyngor ydi na fydd ysgolion ar y cyfan yn cynnig lleoliadau am y tro.
Dim staff i wirio
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cynghorau Gwynedd a Môn wrth BBC Cymru Fyw eu bod yn "cydnabod gwerth y cynllun profiad gwaith" a'u bod wedi "ystyried yn ddwys" cyn gwneud y penderfyniad.
"Penderfyniad Llywodraeth Cymru oedd diweddu cytundeb Gyrfa Cymru i wirio addasrwydd lleoliadau profiad gwaith.
"Ers y penderfyniad hwn mae awdurdodau Gwynedd ac Ynys Môn wedi gweithio ar y cyd i geisio cyfundrefn a fyddai'n sicrhau fod pob lleoliad wedi eu gwirio i safon a fyddai'n sicrhau diogelwch plant Gwynedd ac Ynys Môn tra ar leoliad.
"Yn anffodus yr oedd niferoedd uchel o leoliadau angen eu gwirio eleni ac nid oedd staff a'r hyfforddiant addas i wneud y gwaith o fewn yr ysgolion.
Ychwanegodd y llefarydd: "Penderfyniad yr awdurdod ar y cyd â Phenaethiaid Ysgolion Uwchradd Gwynedd ac Ynys Môn oedd peidio â chynnig profiad gwaith a hyn gan ein bod yn rhoi diogelwch cyn popeth arall.
"Mae'r penderfyniad hwn eisoes wedi ei wneud ar draws gweddill awdurdodau'r gogledd a mwyafrif awdurdodau Cymru.
"Mae'r awdurdodau a'r ysgolion yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig ond yn benderfyniad anorfod oherwydd yr amgylchiadau."
'Dim bai' ar y cynghorau
Mae Neil Foden yn benaeth ar Ysgol Friars ym Mangor, ac yn credu fod y newyddion yn siomedig ond yn anorfod.
Dywedodd: "Mae'n siomedig oherwydd fod nifer o blant wedi cael profiad gwerth chweil allan o dreulio wythnos neu bythefnos mewn lleoliad gwaith.
"Yn anffodus does dim bai ar yr awdurdodau.
"Mae'n gynllun oedd yn cael ei gario allan gan Gyrfa Cymru ond maen nhw wedi gorfod tynnu'n ôl, felly ar hyn o bryd does neb i sicrhau a chadarnhau fod lleoliadau profiad gwaith yn ddiogel ar gyfer plant blwyddyn 10 a 12."
Ychwanegodd bod yna sôn am benodi swyddogion i wirio lleoliadau profiad gwaith yng Ngwynedd ond bod hyn yn rhy gostus.
Llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gall lleoliadau profiad gwaith sydd wedi eu cynllunio'n dda ddarparu rhagflas gwerthfawr i ddisgyblion i fyd gwaith, ac fe all eu paratoi ar gyfer llawer o'r penderfyniadau pwysig maen nhw'n ei wynebu ar adegau hanfodol yn eu haddysg.
"Mae llawer o ffyrdd y gall ysgolion ddarparu gweithgareddau i ddisgyblion i'w helpu a gwella eu dealltwriaeth o'u gallu ym myd gwaith, yn cynnwys sgyrsiau gan gyflogwyr, ymweliadau gyda diwylliannau, a mentora a hyfforddiant gan gyflogwyr."