Eurovision: "Gallai unrhyw beth ddigwydd"

  • Cyhoeddwyd
Lucie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lucie Jones, sy'n 26 oed, yn canu 'Never Give Up On You' yn y digwyddiad yn Kiev, Wcrain

Mae'r gantores o Gaerdydd, sy'n cynrychioli'r DU yng nghystadleuaeth yr Eurovision nos Sadwrn yn credu gallai "unrhyw beth ddigwydd".

Bydd Lucie Jones, sy'n 26 oed, yn canu 'Never Give Up On You' yn y digwyddiad yn Kiev, Wcrain.

Cafodd y gân ei chyd-ysgrifennu gan Emmelie de Forest, y gantores o Ddenmarc fu'n fuddugol yn y gystadleuaeth yn 2013.

Fe wnaeth Jones ennill pleidlais fyw ar raglen Eurovision: You Decide ble'r oedd chwech o gyn-gystadleuwyr yr X-Factor yn canu i geisio cael eu dewis fel ymgeisydd y DU.

Daeth Jones, yn wythfed ar raglen yr X-Factor 'nôl yn 2009.

Proffwydo

Mae hi'n 20 mlynedd ers i Katrina and the Waves ennill y gystadleuaeth dros y DU, ac mae'r dystiolaeth ddiweddara yn awgrymu na fydd hanes yn ail adrodd ei hun 20 mlynedd yn ddiweddarach.

Er i rai o'r bwcis broffwydo nad oes gan y DU siawns o enill yr Eurovision mae Lucie Jones yn credu gallai bod na siawns iddi wneud yn well na'r disgwyl.

"Mae pobl yn dweud wrtha'i ddyddiol beth yw'r odds ond dwi ddim yn cymryd sylw ohonynt, gallai unrhyw beth ddigwydd gyda sioeau fel hyn." meddai.