'Dim tystiolaeth' bod merch yn cael ei bwlio cyn ei marwolaeth

Megan EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Megan Evans, 14, yn ei chartref yn Aberdaugleddau ym mis Chwefror 2017

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae cynnwys yn yr erthygl isod allai beri gofid.

Mae crwner wedi dod i’r casgliad fod "dim tystiolaeth" bod merch 14 oed a laddodd ei hun yn 2017 wedi cael ei bwlio ar-lein.

Cafwyd hyd i Megan Evans, 14, yn farw yn ei chartref yn Aberdaugleddau ym mis Chwefror 2017. Roedd honiadau ei bod yn cael ei bwlio.

Mae cwest i’w marwolaeth wedi dod i’r casgliad nad oes tystiolaeth bod unrhyw fwlio wedi’i gyfeirio at Megan, a bod gan ei hysgol - Ysgol Gyfun Aberdaugleddau - bolisïau gwrth-fwlio mewn lle.

Daeth y crwner Paul Bennet i’r casgliad mai hunanladdiad oedd achos ei marwolaeth.

Dywedodd fod “dim byd i awgrymu" fod Megan yn cael ei bwlio yn yr ysgol nac ar-lein.

'Ni chafodd ei thrin yn wahanol'

Clywodd y cwest bod staff Ysgol Aberdaugleddau yn “pigo” ar Megan oherwydd ei gwisg ysgol anghywir.

Honnodd mam Megan, Nicola Harteveld, nad oedd yr ysgol wedi delio ag arwyddion bod hwyliau Megan yn dirywio.

Dywedodd Paul Bennet wrth y cwest yn Neuadd y Sir yn Sir Benfro ddydd Gwener: "Ni chafodd Megan ei thrin yn wahanol i unrhyw ddisgybl arall", o ran ei gwisg ysgol.

Ychwanegodd fod “digon o dystiolaeth” bod yr ysgol wedi gweithredu polisïau i atal a chodi ymwybyddiaeth o fwlio, gan gynnwys gwasanaethau a ‘botymau bwlio’ lle roedd modd i ddisgyblion adrodd am fwlio yn ddienw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ni ddywedodd Megan wrth ei ffrindiau agosaf ei bod yn cael trafferthion

Dywedodd teulu a ffrindiau Megan wrth y cwest bod Mark Styles - oedd yn gyfrifol am reoli ymddygiad yn Ysgol Aberdaugleddau ar y pryd - wedi “pigo arni”, yn eu barn nhw.

Ond dywedodd y crwner yn ei gasgliad, er gwaethaf tystiolaeth ffrind gorau Megan, Chloe Boswell, ei fod “ddim yn credu bod hyn yn wir”.

Dywedodd Mr Bennet fod ymadroddion fel ‘go kill yourself’ yn cael eu “defnyddio’n rheolaidd” ar-lein yn ei brofiad ef.

Ychwanegodd y gellir ei ystyried mewn gwahanol ffyrdd - “gall yr hyn a all fod yn fwlio i un person fod yn banter i un arall".

'Bywiog' yn ei dyddiau olaf

Dywedodd hefyd na ddywedodd Megan wrth ei ffrindiau agosaf ei bod yn cael trafferthion.

Dywedodd nifer o dystion trwy gydol y cwest bod y ferch 14 oed yn ymddangos yn “fywiog” yn y cyfnod cyn ei marwolaeth, a’i bod yn edrych ymlaen at drip ysgol i Ffrainc.

Dywedodd y crwner bod y ffordd y cafodd corff Megan ei ganfod yn dangos ei bod yn "benderfynol" o beidio â chael ei darganfod yn gyflym

Ychwanegodd nad oedd ei phenderfyniad oherwydd “bwlio neu ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol”.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Megan, ac y bydd yr awdurdod yn "adlewyrchu ar y materion a godwyd yn ystod y gwrandawiad ac ystyried pa wersi y gellir eu dysgu".

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.