Gŵyl Fwyd Caernarfon 2017
- Cyhoeddwyd

Go brin y cafodd Edward I wledd fel hon
Roedd tre'r Cofi dan ei sang ar 13 Mai ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon. Dyma i chi 'chydig o flas y diwrnod.
Rhybudd: Mi fyddwch chi eisiau bwyd cyn dod i ddiwedd yr oriel!:


Mi fedrwch chi fancio y bydd o'n ddiwrnod da!

Barnu'r bwyd 'ta draw am bic-Nic?

"Smo fi'n hoffi'r tywydd sych 'ma" "Na finne chwaith!"

Llŷr Ifans, fu'n chwarae rhan Syr Wynff y llynedd, yn gobeithio y bydd na fwy na slepjan ar y fwydlen

Na! Dydy Lisa Fearn ddim yn siarad trwy'i het!

Mae 'na fwy o bobl yn dre 'ma heddiw na diwrnod sêl siop Nelson sdalwm!

Tîm pêl-droed Aber-soch yn cael hoe cyn eu gêm yn erbyn Wrecs-ham

Roedd 'na wledd o gerddoriaeth yn ystod y dydd hefyd a Meinir Gwilym ymhlith y perfformwyr

Dal yn llawn egni ar ôl blasu'r holl fwyd neis 'na

Llwyfan i dalent ifanc. Patrobas o Ben Llŷn yn cyfuno'r cyfoes gyda'r traddodiadol

Llwnc destun i ddwsin disglair Caernarfon!

Digon o sôs coch, dim nionod i ni.. diolch!