Safon byw: Gobeithion a phryderon pobl Llanwenog
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r etholiad cyffredinol agosáu, mae BBC Cymru yn edrych ar fywyd trigolion yn un o wardiau mwyaf canol y ffordd Cymru o ran safonau byw.
Yn ogystal â'i lleoliad daearyddol yn y canolbarth, mae cymuned Llanwenog yng Ngheredigion yn meddiannu'r tir canol mewn ffordd arall hefyd.
Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, sy'n mesur wyth math o amddifadedd gan gynnwys incwm, gwaith, iechyd ac addysg, mae safon byw pobl yno yn gyson.
Nid dyma'r ardal fwyaf difreintiedig na chwaith y lleiaf difreintiedig.
Allan o 1909 o gymunedau, mae hi bron â bod union yn y canol yn safle 968. Ar drothwy'r etholiad dyma oedd yn destun trafod i drigolion Llanwenog.
'Diffyg swyddi at y dyfodol'
Mae Caroline Davies yn athrawes mathemateg ac wedi byw yn Llanwenog ers 35 o flynyddoedd.
Fe fuodd hi'n siarad am warchod ei hŵyr dyflwydd oed, Celt, a swyddi ar gyfer y cenedlaethau nesaf oedd yn ei gofidio.
"Ni wedi bod yn ffodus yn y gorffennol bod pobol wedi cael y swyddi i ddod 'nôl i'r ardal ond pwy a vyr yn y dyfodol os ydy hynna'n mynd i barhau.
"Beth sy'n poeni fi fwyaf yw'r diffyg swyddi ar gyfer y dyfodol. Ar ôl i'r bobol ifanc fynd bant i brifysgol am dair neu bedair blynedd, pa fath o swyddi safonol sydd yma i'w denu nhw 'nôl i'w ardal enedigol?
"Mae 'na nifer o gwmnïau sy'n cael eu prynu mas gan gwmnïau eraill sydd falle yn fwy agos i gyfleusterau'r M4, a pwy a ŵyr yn y dyfodol, falle bydd y swyddi yn mynd tuag at ardaloedd eraill."
Er gwaethaf pryderon Caroline, yn genedlaethol mae'r nifer sy'n gweithio ar gynnydd - ond mae dros un ym mhob pump o'r swyddi newydd ers 2010 yn sgil gweithwyr hunangyflogedig.
Nifer sy'n gweithio (2016): Cymru 1,347,000 // Y Deyrnas Unedig 30,144,700
Cynnydd yn y nifer sy'n gweithio ers 2010: Cymru 77,600 // Y Deyrnas Unedig 2,085,600
Cyfran y swyddi newydd ers 2010 sy'n hunangyflogedig: Cymru 21% // Y Deyrnas Unedig 32%
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ar ôl troi'n 18 oed dros y misoedd diwethaf, dyma'r cyfle cyntaf i Tomos bleidleisio mewn etholiad cyffredinol.
Yn ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr yn Llanbed, mae wrthi'n astudio ar gyfer ei arholiadau Lefel A, ac yn bwriadu mynd i brifysgol ym mis Medi.
Mae'n dweud mai costau teithio, gan gynnwys pris petrol, sy'n cael effaith ar safon bywyd yn yr ardal.
"Gan fod yr ardal mor ynghanol ddim unman, fel ma' nhw'n dweud, mae fe'n gallu fod yn dipyn o boendod ambell waith i drafaelu o fan hyn i mewn i'r trefi o amgylch.
"Fi'n mynd i'r ysgol yn Llambed sydd 10 munud o ffordd lawr yr hewl, a gan fod ddim bws yn mynd heibio heblaw am ar ddydd Mawrth, does dim ffordd i gael o fynd heblaw rhedeg cerbyd personol.
"Gyda threthi a phrisiau petrol yn codi mae'n gallu bod yn hynod o ddrud. Felly i wella'r gymuned, dwi'n credu bydde dod â bws neu system fel sydd gyda Bwcabus - sydd yn ffordd fwy rhad o redeg ambwti'r lle na bod rhaid mynd â cherbyd personol rhwng A a B trwy'r amser."
'Dibynnol ar amaeth'
Un sydd wedi byw yn Llanwenog ar hyd ei hoes yw Helen Howell, sy'n ffermio ac wedi sefydlu busnes newydd yn ddiweddar i roi cyngor arbenigol i'r sector wledig.
Mae Fferm Tŷ Cam yn 212 erw, ac arni mae 200 o wartheg a 200 o ddefaid.
Brexit sy'n hawlio eu sylw hi ar drothwy yr etholiad cyffredinol.
"Ma'r sector wledig fan hyn yn ddibynnol iawn ar amaeth, mae hefyd yn ddibynnol iawn ar swyddi o goedwigaeth a hefyd ar y sector gyhoeddus.
"Felly yn sgil Brexit, a Brexit caled, fydden ni'n poeni'n fawr am fasnach, allforion gydag Ewrop yn chwarae rhan fawr, a hefyd yn poeni am gynnydd mewn trethi.
"Bydd hynny yn effeithio incwm pawb, a hefyd yr effaith o golli'r arian Ewropeaidd yng Nghymru, yr effaith gaiff hynny ar y sector gyhoeddus a'r swyddi gwledig sy'n ddibynnol ar rheiny.
"Ar hyn o bryd, rwy'n gweld hi'n anodd gweld beth yw'r potensial go iawn. Ma' fe'n peri pryder mawr o ran y sector cig coch. Ma' Ewrop yn farchnad fawr ar gyfer cig oen Cymraeg, mae e'n farchnad sefydlog sydd werth tua £120m y flwyddyn i'r economi Gymraeg.
"Mae nifer o swyddi yn yr ardal hon yn ddibynnol ar y sector cig coch - felly ma' gyda ni ffermwyr sydd yn magu anifeiliaid, wedyn ma' gyda ni brosesydd mawr Dunbia yn Llanybydder, lle ma' nifer o bobol yn cael eu cyflogi ac wedyn ma' gyda ni'r bobol trafnidiaeth sydd yn trafnidio'r bwyd yma ar draws Ewrop.
"Yn y tymor byr, ella mai un o'r pethau fyddai o lwc i fi yw fi newydd sefydlu cwmni ymgynghorol sy'n rhoi cyngor arbenigol i'r sector wledig a falle gyda chymaint o gwestiynau a chymaint o ansicrwydd, falle bydden i'n gallu gweld cynnydd yn fy ngwaith i yn y flwyddyn neu ddwy nesa, ond rhywbeth tymor byr yw hynny, fi'n edrych fwy ar y tymor hir - beth yw effaith Brexit ar yr economi, ar incwm ac ar ba mor llewyrchus bydd busnesau bach cefn gwlad."
Yn ôl Robert Bowen, sy'n ddarlithydd busnes gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'n debyg bydd Brexit yn newid y ffordd bydd pobl yn pleidleisio.
Mae'n dweud nad ydy pwyso a mesur yr effaith fydd yr etholiad yma yn ei gael ar safonau byw yn hawdd.
"Fel pob etholiad mae'n rhaid i ni ystyried beth sy'n digwydd ar lefel lleol. A 'dyn ni'n gweld falle, mewn nifer o ardaloedd gwledig, 'dyn ni ddim yn gweld gwelliant sylweddol yn safonau byw.
"Wrth gwrs etholiad Prydeinig yw hwn ac felly mae nifer fawr o'r materion sydd yn canolbwyntio ar safonau byw pobol yng Nghymru yn cael eu penderfynu yng Nghymru, felly mae'n anodd iawn i ddweud beth fydd effaith yr etholiad yma ar safonau byw, ond yn sicr 'dyn ni'n byw mewn gwlad - o gymharu â gwledydd eraill ar draws Ewrop ac ar draws y byd - lle mae safonau byw yn weddol dda.
"Ond mae rhaid i ni sicrhau bod gyda ni wasanaethau cyhoeddus da, safon iechyd da a gwneud yn siŵr bod mynediad gan bobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig at y gwasanaethau yma."