Pryder am ddiffyg lle meddygfeydd Porth Tywyn, Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Bydd meddygfa Harbour View yn cau ddiwedd GorffennafFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd meddygfa Harbour View yn cau ddiwedd Gorffennaf

Mae pryder y bydd rhaid i gleifion Porth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin deithio allan o'r dref i weld meddyg wrth i feddygfa yn y dref gau.

Yn ôl cynghorwyr mae tua 1,400 o bobl wedi eu cofrestru i feddygfa Harbour View, fydd yn cau ddiwedd Gorffennaf gan fod y meddyg, Dr Lodha yn ymddeol.

Oherwydd diffyg lle yn y feddygfa arall ym Mhorth Tywyn, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal nos Fawrth i drafod pryderon.

Doedd neb ar gael o feddygfa Harbour View i gadarnhau union nifer y cleifion yn y feddygfa.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd y feddygfa'n cau, a dweud bod y bwrdd yn "gweithio'n agos" gyda Harbour View a meddygfeydd yr ardal.

'Rhy bell'

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y bwrdd iechyd bod y feddygfa'n cau, gan ddweud bod "cynaladwyedd parhaus y gwasanaethau meddygol cyffredinol ar gyfer y boblogaeth yn flaenoriaeth" ac y byddai "cynllun cadarn" yn cael ei ddatblygu ar gyfer cleifion cofrestredig.

Ond dywedodd un cynghorydd nad oedd llawer o gleifion yn ymwybodol y byddai'r feddygfa'n cau.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Davies: "Gweld ar Facebook 'nes i a wedyn weles i boster yn ffenest y feddygfa. Does neb wedi cysylltu â ni'n uniongyrchol.

"Rwyf wedi cael ar ddeall nad oes fawr o le yn y feddygfa arall, a felly byddai disgwyl i gleifion deithio i Gydweli neu Lanelli.

"Mae hynny yn rhy bell, yn enwedig i bobl oedrannus Porth Tywyn. 'Wi'n bryderus iawn ynglŷn â'r dyfodol."

Ychwanegodd cynghorydd tref arall ym Mhorth Tywyn, Mary Wenman, ei bod hi'n bryderus dros y gymuned leol ac yn "gobeithio y cawn ni fwy o oleuni yn y cyfarfod".

'Sicrhau mwy o le'

Dywedodd Laura Lloyd Davies, Rheolwr Datblygu Ardal Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth Cymru Fyw: "Ry'n ymwybodol fod 'na ddim lot fawr o le yn y feddygfa arall ym Mhorth Tywyn ond ry'n yn ceisio cymryd camau i sicrhau mwy o le."

Dywedodd Jill Paterson, un o gyfarwyddwyr Hywel Dda: "Gallaf gadarnhau y bydd y feddygfa yn cau ar 31 Gorffennaf.

"Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda meddygfa Harbour View, meddygfeydd cyfagos a'r cyngor cymuned.

"Yn ystod y dyddiau nesaf bydd cleifion yn derbyn llythyr yn nodi pa feddygfa y byddan nhw'n gallu cofrestru gyda hi o 1 Awst ymlaen.

"Ar hyn o bryd does dim rhaid i gleifion wneud dim byd. Ry'n am sicrhau cleifion ein bod fel bwrdd iechyd yn ymrwymo i ddarparu gofal iddyn nhw."