AI yn gallu lleihau llwyth gwaith athrawon - Estyn

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion "yng nghamau cynnar" archwilio manteision AI, yn ôl Estyn
- Cyhoeddwyd
Gall deallusrwydd artiffisial (AI) leihau llwyth gwaith athrawon yn sylweddol a helpu disgyblion i ddysgu, ond mae angen canllawiau cliriach i ysgolion ar sut i'w ddefnyddio "yn ddiogel ac yn foesegol", yn ôl yr arolygaeth addysg Estyn.
Mae adroddiad Estyn ar ddeallusrwydd artiffisial yn dweud bod rhai athrawon yn ei ddefnyddio i gynllunio gwersi, llunio llythyrau i rieni a chreu adroddiadau disgyblion, ymhlith tasgau eraill.
Ond mae rhai athrawon yn pryderu y gallai disgyblion fynd yn or-ddibynnol ar AI, tra bod eraill yn poeni am dwyllo neu lên-ladrad, yn ogystal â defnydd amhriodol o'r dechnoleg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen cydbwysedd rhwng defnyddio AI yn effeithiol, a diogelwch a lles disgyblion a staff.
Dywedodd Estyn bod rhai staff mewn ysgolion Cymraeg wedi sôn am bryderon am ansawdd gwael cynnyrch AI yn Gymraeg, "gan dynnu sylw at ddiffyg deunyddiau sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol gywir".
Roedd hyn, meddai'r athrawon, "yn creu rhwystr ychwanegol rhag defnyddio AI mewn modd effeithiol a chynhwysol mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg."
- Cyhoeddwyd7 Awst
- Cyhoeddwyd9 Mai
Yn Ysgol Gymunedol Cei Newydd yng Ngheredigion maen nhw wedi bod yn treialu nifer o brosiectau AI, gan gynnwys rhai i gryfhau sgiliau llythrennedd y plant.
"Maen nhw wedi bod yn sgwennu disgrifiadau erioed, ond nawr ry'n ni'n gallu bwydo hynna mewn i feddalwedd AI a chael delwedd wedyn i ddod ar y sgrin o fewn eiliadau," meddai athro yn yr ysgol, Heulyn Roderick.
"Mae hwnna wedyn yn ysgogi'r plant i fynd nôl, ailedrych ac addasu'r disgrifiad - ychwanegu ansoddeiriau 'falle, gwneud e'n fwy diddorol ac wedyn yn hybu creadigrwydd yn y disgyblion."
'Gwneud dysgu yn hwyl'
Mae'n bwysig o oedran cynnar i ddysgu disgyblion sut mae defnyddio AI "yn gyfrifol ac yn ddiogel", meddai Mr Roderick.
"Risg amlwg yw defnyddio AI ac wedyn esgus mai'r plentyn sydd wedi creu'r gwaith.
"Ond dwi'n edrych arno fel rhywbeth positif - fel bo' ni'n defnyddio AI er mwyn cael syniadau er mwyn hybu creadigrwydd."
Mae'n bwysig sicrhau bod y plant yn datblygu "meddwl beirniadol" a pheidio "derbyn beth mae AI yn dweud wrthym ni'n syth", meddai Mr Roderick.
Dywedodd Layla, 10, bod "AI yn helpu fi gyda syniadau i ysgrifennu" ac yn "gwneud y dysgu yn hwyl".
"Mae AI yn helpu fi i ddysgu yn fwy cyflym," meddai Lily, sy'n naw.
"Fi'n hoffi gwneud lluniau a fideos gyda AI."

Yn Ysgol Cei Newydd mae Layla a Lily wedi dysgu'r angen i ddefnyddio AI yn gyfrifol o oedran cynnar
Dywedodd Estyn fod disgyblion ysgol uwchradd yn defnyddio AI ar gyfer tasgau fel crynhoi nodiadau adolygu a chreu cwestiynau cwis, i ymarfer am arholiad.
Ond dywedodd yr adroddiad bod yna amrywiaeth mawr yn y modd y mae disgyblion yn ei ddefnyddio.
Roedd rhai yn "fwy ofnus, yn bryderus ynghylch yr hyn sy'n cael ei ganiatáu ac yn poeni y bydd athrawon yn eu cyhuddo o dwyllo os byddant yn ei ddefnyddio".
Yn gyffredinol, dywedodd Estyn bod "llawer o ysgolion yng nghamau cynnar archwilio AI o hyd".
Roedd llawer o'r staff "yn gyffrous am botensial AI, ond yn gochel rhag ei ddefnyddio", gyda rhai enghreifftiau o "staff sy'n hyderus ac yn chwilfrydig yn ddigidol".
'Potensial i drawsnewid addysgu'
Dywedodd Estyn bod defnyddio AI i lunio llythyrau ac adroddiadau wedi helpu rhai athrawon, gan arwain at "ostyngiadau sylweddol i'w llwythi gwaith" a hynny'n eu rhyddhau i ganolbwyntio mwy ar ddisgyblion.
Yn ôl y Prif Arolygydd Addysg, Owen Evans: "Mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i drawsnewid addysgu a dysgu, lleihau llwyth gwaith, a chefnogi cynhwysiant mewn ysgolion.
"Ond mae hefyd yn dod â heriau na allwn eu hanwybyddu.
"Er mwyn sicrhau bod AI o fudd i bob dysgwr yng Nghymru, mae angen dull cenedlaethol clir arnom – un sy'n gynaliadwy, yn foesegol ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i ddisgyblion."

Rhaid paratoi plant ar gyfer swyddi'r dyfodol, meddai Louise Griffiths
Yn ôl Louise Griffiths, pennaeth Ysgol Cei Newydd, does dim modd anwybyddu AI pan mae'n "rhan annatod o fywyd bob dydd".
"Mae e o'n cwmpas ni ym mhob man," meddai Ms Griffiths.
"Mae nifer ohonom ni'n defnyddio apiau ffitrwydd neu yn siopa ar-lein, felly fel addysgwyr y'n ni'n teimlo bod e'n bwysig bo' ni'n dysgu'r plant i ddefnyddio AI yn gyfrifol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys datblygu fframwaith cenedlaethol mewn partneriaeth â'r sector addysg ac arbenigwyr diwydiant i fabwysiadu manteision AI mewn ysgolion yn gyfrifol".
"Mae'n hanfodol cael cydbwysedd yn y defnydd effeithiol o AI, tra'n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a lles ein dysgwyr a'n gweithlu".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.