Hawl y Gymraeg yn y llys yn 'anghenraid sylfaenol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd yn "anghenraid sylfaenol" ac mae 40 o farnwyr bellach yn medru'r iaith yng Nghymru.
Dyna ddywedodd cyn-gadeirydd Comisiwn y Gyfraith Syr David Lloyd Jones ar ddechrau cynhadledd y Comisiynwyr Iaith ym Mae Caerdydd nos Fawrth, 50 mlynedd ers i Ddeddf yr Iaith Gymraeg gael ei chymeradwyo ym 1967.
Ychwanegodd fod y llysoedd bellach yn "ieithyddion arbenigol" fyddai'n cynnig offer cyfieithu safonol.
Ac am y tro cyntaf, mae deddfwriaeth ddwyieithiog yn cael ei chyflwyno yn y DU o ganlyniad i ddatganoli.
Mae'n sefyllfa wahanol iawn felly i fel yr oedd hi adeg Deddf Uno 1536, pan oedd y DU yn cyfeirio at lefaru'r Cymry fel "rhywbeth hollol wahanol i'r famiaith."
Fe ddaeth sylwadau Syr David ar ddechrau cynhadledd ddeuddydd y Comisynwyr Iaith.
Comisiynydd y Gymraeg sy'n croesawu swyddogion o wledydd eraill eleni wrth i'r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghaerdydd.
Mae 'na gynrychiolwyr o Kosovo, Canada, Iwerddon, Fflandrys, Catalonia a Gwlad y Basg.
Wrth agor y Gynhadledd fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod strategaeth iaith bwysig yn cael ei chyhoeddi yn yr haf, 50 mlynedd wedi'r ddeddf iaith wreiddiol.
Y nod ydy codi nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050 - bron i ddwy waith y nifer sy'n ei medru ar hyn o bryd.
Fe gyfaddefodd Mr Jones y byddai'n her gwneud hynny o fewn dwy genhedlaeth, ond ei bod yn "amser cymryd camau breision i sicrhau twf yn y niferoedd."