Mehefin 2016 trwy lygaid Keith Morris
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru Fyw yn rhoi cyfle i ffotograffwyr gwadd rannu rhai o'r lluniau y maen nhw wedi eu tynnu yn ystod misoedd amrywiol y flwyddyn.
Dyma oedd profiad Keith Morris o Fis Mehefin 2016, gydag ambell i stori tu ôl i'r lluniau.
"Roedd hi'n wyntog yn Aberystwyth ddechrau'r mis. Mae gan y papurau cenedlaethol ddiddordeb mewn lluniau fel hyn"
"Rhai o fyfyrywr Coleg Ceredigion oedd rhain, yn perfformio'r ddrama gerdd 'Chicago'
"Mae'r machlud wastad yn fendigedig yn Aber. Tynnais y llun hwn ar draeth Tanybwlch. Ro'n i'n ei dynnu er mwyn ei gynnig i asiantaethau lluniau gan feddwl y byddai'n gwneud clawr llyfr da neu rywbeth. Dyna pam rwy'n bwrpasol wedi gadael gofod ar ochr dde'r llun ar gyfer i gyhoeddwyr allu gosod teitl"
"Hen hewl rhwng Bala a Dolgellau yw hon. Ro'n i'n awyddus i ddangos y dirywiad ac mae presenoldeb y ferch (Rhi Slatcher) yn ychwanegu rhyw wêdd fygythiol i'r llun. Mae'r ffaith ei bod hi'n gwisgo gŵn nos yn rhoi'r argraff ei bod hi wedi dianc o rywle... sbyty meddwl falle."
"Leigh Denyer yw'r gŵr hwn yn manteisio ar y tonnau uchel yn Aberystwyth"
"Traddodiad Mecsicanaidd yw 'Diwrnod y Meirw'. Y cynllunydd Elin Jones gafodd y syniad o wisgo'r merched fel hyn a gwneud y colur, felly mi wnaethom ni gydweithio i greu lluniau fel hwn."
"Credwch neu beidio ond roedd 25 Mehefin yn Ddwirnod Rhyngwladol y Tylwyth Têg. Cafodd hwn ei dynnu ym Mharc Plascrug, Aberystwyth y diwrnod cynt yn y gobaith y byddai diddordeb gan rai o'r papurau"
"Mae'r cwch yn anelu am Pendinas, ac yn addas iawn Pendinas yw enw'r cwch hefyd."
"Nid gwerthwr matiau yw hwn! Myfyriwr yw e sydd hefyd yn saethwr. Hwnna yw'r cefndir mae e yn ddefnyddio wrth anelu'r bwa saeth at y targed. Rwy'n rhan o brosiect 'Humans of Aberystwyth'. Bob bore Mawrth byddai'n tynnu llun rhywun yn y dre a chael sgwrs 'da nhw".
"Dyma lun o brosiect arall y bues i'n gweithio arno gyda Lyka Kinchen. Ei brawd Jack sydd yn y llun a mae Lyka wedi gliwio degau o grisialau bychain i'w wyneb i greu delwedd drawiadol"
"Blwyddyn canmlwyddiant T Llew Jones a dyma lun a dynnes i o gynhyrchiad Cwmni Arad Goch o 'Lleuad yn Ola'. oedd ar daith drwy Gymru ar y pryd."
"Dyma'r artist Kim James-Williams yn paentio lluniau yn y gysgodfan ar brom Aberystwyth. Roedd hi'n gosod y lluniau gorffenedig yn y gysgodfan ar ddiwedd dydd."