Y byd o Geredigion
- Cyhoeddwyd
Mae ei waith i'w weld yn gyson yn rhai o gyhoeddiadau a gwefannau amlyca'r byd, ond dyw'r ffotograffydd Keith Morris ddim yn gorfod teithio'n bell o'i filltir sgwâr yng Ngheredigion am ysbrydoliaeth.
Bu Keith yn egluro wrth Cymru Fyw sut mae creu argraff yn rhyngwladol mewn maes sydd mor gystadleuol:
Nes i ddechre tynnu lluniau pan o'n i yn y brifysgol yng Nghaerwysg yn 1976-77. Tua'r un pryd, o'n i hefyd yn aelod o Gwmni Theatr Ieuenctid Cymru.
Yn digwydd bod, ro'dd y cwmni yn perfformio yn Eisteddfod Machynlleth yn 1981 ac fe 'naethon nhw gynnig tâl i mi am dynnu lluniau o'r sioe.
Teimlais fylb yn goleuo yn fy mhen... 'Hei, fi'n gallu gwneud y peth 'ma rwy'n mwynhau a chael fy nhalu amdano.' Dyna sut ddechreuodd y cyfan.
Agorodd y drws ymhellach i fi pan agorodd canolfan Y Sgubor yn Aberystwyth.
Ro'dd pobl greadigol a chwmnïau theatr yn medru llogi gofod yn rhad iawn ac felly mi 'nes i fanteisio ar hynny gan gynnig fy ngwasanaethau i'r cwmnïau hyn, oedd eisiau lluniau cyhoeddusrwydd ac ati.
Ffilm
Roedd cyfle i mi fyw, drwy dynnu lluniau. Gan fy mod i'n ifanc heb forgais a llawer o gostau ro'n i'n gallu gwneud bywoliaeth.
Rwy'n ffodus iawn o fod yn y lle cywir, nid yn unig ar yr amser cywir, ond yn y cyfnod cywir.
Heddiw, byddai cwmni theatr wedi cael un o'r staff i dynnu lluniau cyhoeddusrwydd ar eu ffonau symudol neu gamera digidol, a fyddai ddim modd i ffotograffydd ifanc ddilyn y llwybr fues i'n ddigon ffodus i wneud.
Am rhyw 20 mlynedd nes i orfod gweithio 'da ffilm. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gorfod deall y broses honno gan bod y ddisgyblaeth wedi rhoi rhyw fath o addysg sylfaenol i mi ar sut i gyfansoddi llun.
Roedd rhaid i chi fod yn fwy gofalus ar ffilm, roedd rhaid sicrhau fod 'na bwrpas i bob llun. Erbyn heddiw, mae pobl yn tueddu i dynnu cannoedd os nad miloedd o luniau ar gamera digidol, ac wedyn gobeithio fod un ohonyn nhw'n iawn.
I mi, nid dyna'r ffordd i wneud e! Ddylech chi fod yn fwy disgybledig, tynnu llai o luniau a chymryd llawer iawn mwy o ofal o'r hyn y'ch chi yn saethu.
Erbyn hyn mae'r dechnoleg wedi newid, ac mewn llawer o ffyrdd mae e wedi gwneud y broses o dynnu lluniau yn haws o lawer.
Mae datblygiad sylweddol ym maes cyhoeddi wedi digwydd hefyd, a thwf am luniau gan wahanol ffynonellau dros y byd, oherwydd mae'r we bellach yn gwneud hwn yn fusnes byd-eang.
Ond mae llawer mwy o bobl mewn sefyllfa i lenwi'r galw hwn am luniau, felly mae'n galed iawn torri mewn i'r busnes fel ffotograffydd masnachol.
Datblygiad pwysig sydd wedi golygu fy mod i'n dal i fedru gwneud bywoliaeth heb symud yn rhy bell o fy nghynefin yw bod fi'n tynnu lluniau i asiantaeth luniau , dolen allanol.
Mae'n rhoi'r cyfle i mi ennill incwm sylweddol iawn o dynnu lluniau sydd wedyn yn cael eu gwerthu'n fasnachol i bapurau a chylchgronau dros y byd.
Dyw hi ddim yn hawdd a dyw'r asiantaeth ddim yn derbyn unrhyw lun ceiniog a dime. Ond mae'n deg dweud mai fi yw eu harbenigwr ar stormydd a drudwyod (starlings)!
Cariad at Aber
Fi'n byw yn y stryd ble ges i fy magu, ac yn byw yn nhŷ fy nhad-cu, ac yn hapus tu hwnt yma yn Aberystwyth.
Gyda'r gwreiddiau sydd gyda fi yn y gymuned, rwy'n teimlo'n gyfrifol i'r gymuned, ac yn teimlo'n ffodus iawn o fyw yn rhywle mor bert a dal yn gallu gwasanaethu cleientiaid dros y byd trwy wyrth y chwyldro digidol.
Mae'r gwaith asiantaeth yn cynnig yr arian bara menyn i mi, ac rwy'n ffodus iawn fod hynny'n golygu bod cyfle i mi wneud gwaith gwirfoddol i ambell i fudiad lleol weithiau, ond hefyd i wneud prosiectau personol fy hun.
Mae gen i grŵp ar Facebook o fodelau, cynllunwyr dillad a phobl sy'n gwneud gwallt a dwi'n cydweithio gyda rheiny ar brosiectau 'diddorol'.
Mae bod yn ffotograffydd masnachol yn medru bod yn fywyd unig, ac weithiau rwy'n gweld eisiau'r cyfnod pan oedd gyda fi stiwdio yng nghanolfan Y Sgubor gyda phobl greadigol eraill o'm cwmpas. Mae'r gwaith cymunedol yn llenwi'r bwlch yna rhywfaint.
Technoleg newydd
Rwy' newydd brynu drôn. Mae'n arwydd o sut mae'r diwydiant yn symud.
Mae safon y lluniau'n eithriadol o dda ac mae'r gost wedi syrthio'n sylweddol iawn mewn ychydig iawn o flynyddoedd.
Ond yn bwysicach, mae'r gallu i dynnu lluniau o'r awyr yn rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i mi, ac yn rhywbeth rwy'n cael llawer o fwynhad o wneud.
Alla'i ddim gwerthu unrhyw luniau sydd yn cael eu tynnu o'r drôn nes i mi gael trwydded. Dwi yn ystyried talu am drwydded ac am gyrsiau hyfforddiant ond dal i chwarae ydw i... ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017