Cynnydd yn nifer gwrandawyr Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnydd yn nifer gwrandawyr Radio Cymru yn ystod chwarter cyntaf eleni.
Yn ôl cwmni Rajar, roedd cyfartaledd o 119,000 o bobl yn gwrando ar yr orsaf pob wythnos - cynnydd o 5,000 ers y chwarter blaenorol.
Mae hefyd yn gynnydd o 7,000 o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Roedd 373,000 yn gwrando ar BBC Radio Wales bob wythnos hefyd, sydd 2,000 yn is na'r chwarter blaenorol, a 7,000 yn llai na'r un cyfnod y llynedd.