Cynghrair y Pencampwyr i 'hybu pêl-droed merched' Cymru

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, UEFA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lyon neu PSG yn codi tlws Cynghrair Pencampwyr y merched yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau

Wrth i rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched gael ei chynnal yng Nghaerdydd nos Iau, mae gobaith i ysbrydoli mwy o ferched i chwarae'r gêm yng Nghymru.

Nod Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru (YBC) yw cael 20,000 o ferched i fod yn chwarae pêl-droed yng Nghymru erbyn 2024.

Mae twf wedi bod ym mhoblogrwydd y gêm i ferched, gyda llwyddiant chwaraewyr fel Jess Fishlock - y person cyntaf o Gymru i ennill 100 o gapiau dros ei gwlad - yn help i godi proffil y gêm dros y blynyddoedd.

Yn 2013 roedd Cymru'n llwyfannu cystadleuaeth Ewropeaidd dan-19 i ferched, ac ers hynny hefyd mae Uwch Gynghrair Merched Cymru wedi cael ei sefydlu.

5,600 wedi cofrestru

Mae Jamie Clewer yn gweithio i YBC, ac yn gyfrifol am ddatblygu pêl-droed ar lawr gwlad i fechgyn a merched.

"Bydd llygaid y byd i gyd ar Gaerdydd wythnos yma ac fe fyddwn yn sicr yn codi ymwybyddiaeth o'r gêm yng Nghymru, a beth sydd ar gael i ferched yn ystod yr wythnos," meddai.

"Mae gŵyl arbennig wedi'i threfnu i ferched ar gaeau Llanrhymni ddydd Iau. Bydd 1,600 o ferched yn cymryd rhan mewn 150 o dimau o bob oedran ar hyd Cymru a Lloegr."

Ffynhonnell y llun, YBDC & BBC
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jamie Clewer mae defnyddio chwaraewyr fel Jessica Fishlock fel enghreifftiau i "ysbrydoli" merched i chwarae pêl-droed yn bwysig

Ar hyn o bryd mae 5,600 o ferched wedi cofrestru i chwarae pêl-droed i 117 glybiau yng Nghymru, ond mae dros 20,000 yn chwarae pêl-droed ar unrhyw ffurf unwaith yr wythnos, mewn ysgolion neu gartref.

"Mae pêl-droed yn boblogaidd iawn mewn ardaloedd trefol yng Nghymru ac mae ambell i leoliad ble mae angen datblygu ymhellach." meddai Mr Clewer.

Cymaint yw'r galw am bêl-droed merched yng Nghymru mae pryderon wedi bod yn y canolbarth ynghylch nifer y timau oedd ar gael er mwyn sicrhau bod merched yn cael y cyfle i chwarae pêl-droed.

'Bechod mawr'

Yn ôl Cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed canolbarth Cymru, mae timau pêl-droed merched yn y canolbarth "wedi diflannu" ers dwy flynedd.

Dywedodd Will Lloyd o Fachynlleth: "Rydym wedi colli dwy gynghrair gyda thua naw o dimau ynddyn nhw.

"Mae'r canolbarth yn lle anodd i gael trefn o ran timau oherwydd natur y ddaearyddiaeth.

"Mae'n bechod mawr, ond mae 'na drip wedi'i drefnu i Gaerdydd ar gyfer merched yr ardal sydd eisiau chwarae pêl-droed i wylio'r ffeinal nos Iau, felly dwi'n gobeithio bydd hynny yn ennyn diddordeb."

Ffynhonnell y llun, Nia Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Ellis yn chwarae fel ymosodwr i dîm merched Llanfair Utd

Mae Nia Ellis o Lanfair Caereinion ym Mhowys yn chwarae i dîm merched y dref.

Yn dilyn diddymu cynghrair merched y canolbarth mae'r tîm wedi gwneud cais i chwarae yng nghynghrair y gogledd oherwydd prinder gemau cystadleuol.

Mae'r tîm bellach yn teithio cyn belled ag Ynys Môn i chwarae gemau oddi cartref, ond yn ôl Nia, sy'n athrawes wrth ei gwaith pob dydd, dyna oedd yn "rhaid 'neud" er mwyn gallu chwarae mewn gemau cystadleuol.

Dywedodd: "Mae hi'n anffodus ein bod ni'n gorfod teithio i'r gogledd i chwarae pêl-droed bob yn ail wythnos ond dyna sydd rhaid 'neud i chwarae gemau cystadleuol.

"Cyn i gynghrair y canolbarth ddiddymu roedden ni'n paratoi i chwarae gemau ac yn cael galwadau ffôn yn canslo gemau ar fyr rybudd.

"Dim ond pedwar tîm oedd yn chwarae yn y gynghrair bryd hynny a doedd hynny ddim digon cystadleuol i ni, felly mi oedd rhaid i ni symud i chwarae yn y gogledd.

"O leiaf y ffordd yma mae'r merched yn sicr o gael chwarae pêl-droed."

'Datblygu hyfforddwyr'

Un chwaraewr sydd eisoes wedi chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr ac sy'n dal i freuddwydio am chwarae yn y ffeinal yw chwaraewr canol cae Cymru a Lerpwl, Natasha Harding.

"Dwi wedi cyrraedd y quarter finals gyda Bristol o'r blaen, dwi'n edrych yn ôl gyda fond memories," meddai.

"Mae'n grêt fod y ffeinal yng Nghaerdydd. Mae'r Champions League ar yr un lefel a Chwpan y Byd a'r Olympics i ferched.

"Mae'n gwpan mae pawb eisiau dweud eu bod wedi chwarae yn y gemau ac wedi chwarae yn y ffeinal ac ennill y gwpan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Natasha Harding dal i freuddwydio y bydd hi un diwrnod yn ennill Cynghrar y Pencampwyr

Mae gan yr ymddiriedolaeth nifer o gynlluniau i geisio cyrraedd eu targed erbyn 2024, gan gynnwys datblygu'r hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr sydd eu hangen.

Ychwanegodd Jamie Clewer: "Hefyd defnyddio chwaraewyr y timau cyntaf rhyngwladol fel Jess Fishlock i ysbrydoli chwaraewyr y dyfodol.

"Rydym hefyd yn gobeithio bydd yr 20,000 o ferched sydd yn chwarae pêl-droed yn ysgolion Cymru yn cymryd y gêm i fyny ar lefel gystadleuol ac yn ymuno i chwarae gyda chlwb lleol."

Wrth gyfeirio ar ffeinal Cynghrair Pencampwyr y merched dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: " Mae gan ddigwyddiad mor hyfryd â hon y pŵer i allu ysbrydoli Merched yng Nghymru ac ar draws y byd i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed.

Bydd rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched rhwng Lyon a Paris Saint Germain nos Iau yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda'r gic gyntaf am 19:45.