Mincod ysglyfaethus 'ym mhob afon yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
MincFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cadwraethwyr yn rhybuddio bod mincod Americanaidd ym mhob afon yng Nghymru, gan olygu y gall rhai rhywogaethau cynhenid gael eu colli.

Fe gafodd yr ysglyfaethwr ei gyflwyno i Brydain yn yr 1920au i ffermio ffwr, ond fe wnaeth nifer ddianc.

Mae'r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth (BASC) yn dweud bod yr anifeiliaid wedi cael effaith mawr ar nifer y cornicyllod a llygod y dŵr.

Dywedodd y gymdeithas bod angen tracio, dal a chael gwared ar fincod, a bod nifer o gyrff lles anifeiliaid yn cefnogi eu difa.

"Mae wedi bod yn ergyd anferthol ar niferoedd llygod y dŵr," meddai Meurig Rees o BASC.

"Mae hynny oherwydd mincod - mae'n beiriant lladd a bwyta, sydd ddim i fod yn y DU."

'Brwydr barhol'

Cafodd ffermio ffwr ei wneud yn anghyfreithlon yn y DU yn 2000, ac mae rhai'n awgrymu bod nifer y mincod gwyllt wedi cynyddu o ganlyniad i hynny.

Mae hynny er ei bod yn drosedd rhyddhau rhywogaethau sydd ddim yn rhai cynhenid, fel gwiwerod llwyd neu fincod.

Dywedodd Charles Grisedale, sy'n rhedeg gwarchodfa cornicyllod ger Pennant yng Ngheredigion ei bod yn "frwydr barhol" i'w hamddiffyn.

"Byddwn yn eu colli yng Nghymru, a hynny am fod rhaid iddyn nhw frwydro yn erbyn nifer o ffactorau - gan gynnwys mincod," meddai.

"Mae'n ysglyfaethwr anhygoel."