Geraint Thomas yn tynnu allan o'r Giro d'Italia

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Geraint Thomas ddioddef anafiadau i'w ysgwydd a'i ben-glin yn y ddamwain

Mae'r seiclwr Geraint Thomas wedi tynnu allan o ras y Giro d'Italia o ganlyniad i anafiadau ddioddefodd mewn damwain ar gymal ddydd Sul.

Roedd yn ail yn y ras cyn y ddamwain, ddigwyddodd o ganlyniad i feic modur heddlu yn gyrru yn erbyn llif y seiclwyr.

Cafodd sgan ar ei ysgwydd ddydd Llun, ac aeth ymlaen i orffen yn ail yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Mawrth.

Ond dywedodd y byddai aros yn y ras "yn achos o geisio ei gwneud hi trwy bob diwrnod, yn hytrach na rasio".

"Yn amlwg dyw hi byth yn dda gadael ras yn gynnar, yn enwedig pan mai dyma brif nod eich tymor, ond mae'n rhaid i mi edrych ar y darlun ehangach," meddai.

Dyma oedd y tro cyntaf i Thomas arwain Team Sky yn un o rasys mawr y byd seiclo.

Roedd wedi dechrau ddydd Sul yn yr ail safle, ond fe gollodd dros bum munud o ganlyniad i'r ddamwain.

Collodd fwy o amser ar gymalau ddydd Mercher a dydd Iau, ac roedd bron i saith munud y tu ôl i Tom Dumoulin, sydd ar y blaen, cyn iddo dynnu allan.