Fy nod yw cadw'n fyw
- Cyhoeddwyd
Ers cael gwybod yn ôl yn 2014 bod ganddi gyflwr prin ar ei chalon mae bywyd un fam 36 oed o Bentrecwrt, Sir Gâr wedi newid yn llwyr.
Erbyn hyn, mae'n ddiolchgar am bob eiliad ar y ddaear, meddai. Mae Anna Bowen yn rhannu ei phrofiadau gyda Cymru Fyw.
"Sut ydw i'n ymdopi? Llefain, sgrechian, yna llefain eto," meddai, wrth sôn am y cyflwr Gorbwysedd Rhydwelïol Pwlmonaidd (Pulmonary Arterial Hypertension), sydd yn atal llif y gwaed ar ochr dde ei chalon, ac felly yn cael effaith ar ei hysgyfaint. Mae'n gyflwr prin sy'n effeithio ar 15 i 50 o bobl mewn miliwn yn unig.
Mae Anna Bowen, sy'n fam i dri, o Bentrecwrt ger Llandysul, yn teimlo bod rhaid iddi wisgo gwên o flaen pawb arall, er ei bod hi y rhan fwyaf o'r amser yn cael gwaith delio ac ymdopi gyda'i chyflwr.
"Rhaid gwisgo mwgwd ffals, a dw i'n tueddu i guddio bant wrth bobl a gwahanol sefyllfaoedd," meddai. "Weithiau, dw i'n fam dda, ond yn aml iawn dw i ddim yn ymdopi.
"Mae fy mhlentyn ifancaf mewn gofal plant llawn amser oherwydd nad ydw i'n gallu delio gyda'r gofal."
Mae hi'n cymryd cyfuniad o feddyginiaeth bob dydd, meddai, ac mae ganddi bwmp arbennig o gwmpas ei chanol drwy'r amser, sy'n pwmpio cyffuriau i mewn i'w chalon.
Un droed o flaen y llall
Pe bai'r pwmp yn dad-gysylltu am dri munud, byddai hi'n gallu cael ataliad y galon (cardiac arrest).
Wrth hyfforddi ar gyfer ras 10k Abertawe, daeth y broblem i olau dydd, meddai. Aeth pethau o chwith yn sydyn wrth iddi redeg un diwrnod, wrth iddi ymarfer at y ras, a'i gadael hi'n brin ei hanadl.
"Roedden i'n cael gwaith dringo grisiau, ro'n i mas o bwff yn llwyr. Ar ôl mynd at y meddyg teulu, ges i fy ngyrru mewn ambiwlans i Glangwili ac yna i Treforys."
Dyna lle gafodd hi ddiagnosis o Gorbwysedd Rhydwelïol Pwlmonaidd ac roedd yn sioc llwyr.
Penysgafn
"Ro'n i'n actif iawn cyn hyn, ac yn heini. Erbyn hyn, dw i'n cael rhai diwrnodau sy'n well na'i gilydd," meddai.
"Dw i'n OK rhai dyddiau, ond ddyddiau eraill dw i methu gwisgo ar fy mhen fy hun am fy mod i'n brin o anadl, a dw i'n teimlo mor wan a phenysgafn."
Er bod y cyflwr yn ei dal hi'n ôl llawer o'r amser, ac yn cael effaith ar fywyd teuluol, mae pobl i weld yn deall, meddai.
"Sa i'n gallu mynd â'r plant i lefydd ac ati, ond ni'n lwcus iawn o gael cefnogaeth teulu a ffrindiau, ac mae'n rhaid i ni jest addasu, a chanolbwyntio ar yr hyn dw i'n gallu gwneud - sef y ffaith fy mod i yma, i'w gweld nhw'n tyfu a datblygu," meddai.
Ond dyw gweld y gorau o fywyd ddim wastad yn hawdd. Mae rhai diwrnodau'n gallu bod yn anodd, yn gorfforol ac yn feddyliol.
"Wrth reswm, mae e'n fy nghael i lawr, ond dw i'n trio osgoi bod yn isel a dangos emosiwn o flaen y teulu. Mae yna ddagrau cyson, a dw i'n edrych mewn at gael cwnsela eto," meddai.
"Ni'n trio osgoi trafod y salwch gyda'r plant, er nad ydyn ni'n cuddio pethau. Maen nhw dim ond yn gwybod beth sydd rhaid iddyn nhw wybod. Dy'n ni ddim yn sôn am unrhyw berygl sy'n rhan o'r cyflwr."
Edrych ar yr ochr orau
Cymuned fechan iawn o ddioddefwyr sydd, a diolch byth am gyfryngau cymdeithasol, meddai, oherwydd un o'r pethau cyntaf wnaeth hi oedd chwilio am wybodaeth ar Facebook, a sylwi bod yna dudalen ar gyfer dioddefwyr Gorbwysedd Rhydwelïol Pwlmonaidd
"Roedd e'n ffordd o geisio deall y cyflwr a gweld sut oedd pawb arall yn ymdopi, a dysgu sut alla i ddelio gyda pethau," meddai.
Ond does dim iachâd i'r cyflwr, felly mae darganfod gwellhad yn ddymuniad ganddi.
"Does dim digon yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Cymuned fechan ohonom ni sy'n dioddef, ac ry'n ni'n tueddu i geisio lledaenu'r gair ein hunain.
"Mae siarad yn bwysig iawn - gyda meddygon teulu, arbenigwyr, a theulu a ffrindiau hefyd wrth gwrs."
Dydy gweithio ddim yn opsiwn iddi bellach, oherwydd allan o'r 4 cam o'r cyflwr, gyda'r pedwerydd cam yn cael ei gyfrif yn beryglus iawn, mae hi ar frig cam 3.
"Mae'r dyfodol yn codi ofn arna i. Mae yna bosibilrwydd o gael trawsblaniad y galon ond dyw'r broses ddim yn fêl i gyd," meddai.
"Ar y funud, dw i'n trio ffeindio'r balans iawn tra bod y plant yn fach iawn. Sa i mo'yn meddwl gormod am y peth, mae'r rhestr aros yn hirfaith, a dw i'n byw'n bell, tu hwnt i'r tair awr o ofod o Lundain."
Ar ben y cyfan, mae gan ei gŵr diwmor ar ei ymennydd ers pum mlynedd, felly mae bywyd yn gallu bod yn heriol.
"Ry'n ni wedi cael ein hadnabod fel yr "unluckiest pair in West Wales"," meddai Anna Bowen.
Er gwaetha pob rhwystr, un nod sydd ganddi, meddai.
"Am ei fod e'n gyflwr sy'n gallu eich lladd, mae'n codi ofn mawr arna i. Fy mhrif nod mewn bywyd yw i gadw'n fyw."