Cychwyn ymchwil i effaith gamblo ar iechyd y cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i geisio deall effaith dibyniaeth gamblo ar iechyd pobl yng Nghymru wedi cael ei lansio.
Mae gan tua 1.1% o boblogaeth Cymru broblem gamblo, yn ôl ffigurau diweddar gan y Comisiwn Hapchwarae.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gobeithio bydd yr ymchwil yn arwain at well cefnogaeth ar gyfer y rhai sydd â dibyniaeth.
Dywedodd yr Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod yn "bwysig deall y risgiau".
Dywedodd yr Athro Bellis: "Mae datblygiadau yn y diwydiant hapchwarae a'r hysbysebu cysylltiedig yn golygu ei bod yn bwysig ein bod yn deall y risgiau i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ac mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb, yn enwedig y rhai mwyaf bregus, yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw niwed sy'n gysylltiedig a hyn."