Trawsnewidiad £3m ar y gweill i Wersyll Llangrannog

  • Cyhoeddwyd
LlangrannogFfynhonnell y llun, Purcell
Disgrifiad o’r llun,

Darlun y penseiri o sut allai'r neuadd ymgynnull edrych ar ôl y trawsnewidiad

Trawsnewidiad £3m i Wersyll Llangrannog

Mae cynlluniau ar y gweill i drawsnewid "calon" Gwersyll yr Urdd Llangrannog mewn buddsoddiad gwerth £3m.

Fe wnaeth y gwersyll y cyhoeddiad ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth, gan ddweud y bydd y caban bwyta, y neuadd ymgynnull a'r gegin yn rhan o'r adnewyddiad.

Mae penseiri Purcell eisoes wedi eu penodi i ymgymryd â'r gwaith dylunio.

"Mae'r cabanau pren wedi gwasanaethu'r Urdd a'r gwersyll am dros 40 o flynyddoedd - rwy'n siŵr bod atgofion melys ohonyn nhw gan nifer o bobl," meddai cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog, Lowri Jones.

"Dyna pam mai 'calon y gwersyll' dy'n ni wedi galw'r prosiect, am fod cymaint wedi digwydd yma dros y blynyddoedd.

"Y weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw creu calon newydd, ond llawn cystal, fydd yn gallu gwasanaethu a chyfoethogi profiad plant a phobl ifanc wrth iddyn nhw ymweld â ni yn y gwersyll."

Weiren zip

Fe gyhoeddodd y gwersyll hefyd y bydd weiren zip newydd yn cael ei osod yn yr ardal antur fel rhan o fuddsoddiad gwerth £120,000.

Eu gobaith yw y bydd ar agor erbyn yr hydref eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynlluniau drafft y penseiri yn cael eu harddangos ar y maes trwy'r wythnos

Mae'r gwersyll yn y broses o godi'r cyllid ar gyfer y datblygiad ac yn cynnal ymgynghoriad gyda'r cyhoedd yn ystod yr Eisteddfod.

Nod yr ymgynghoriad yw cael pobl i rannu eu hatgofion o'r neuadd a'r caban bwyta er mwyn i'r gwersyll ystyried pa elfennau i'w eu cadw.

Bydd cynlluniau drafft y penseiri ar gyfer yr adeilad yn cael eu harddangos ar y maes trwy'r wythnos, gyda staff yn bresennol i ymgynghori â'r cyhoedd.

"Mae'n bwysig bod pobl Cymru 'da teimlad o berchnogaeth am Langrannog, felly rydyn ni eisiau eich barn ar y cynlluniau," meddai Ms Jones.

"Ond yn fwy 'na hynny, rydyn ni eisiau eich barn ar y rôl mae'r gwersyll yn ei chwarae ar lesiant plant a phobol ifanc heddiw."