Bale: 'Dydw i ddim 100% ar gyfer y ffeinal'

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Reuters

Mae ymosodwr Cymru, Gareth Bale wedi dweud na fydd yn 100% yn holliach ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.

Mae amheuaeth wedi bod am ffitrwydd Bale ar gyfer y gêm rhwng Juventus a Real Madrid yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru nos Sadwrn.

Mae Bale wedi colli tri mis o'r tymor ar ôl iddo anafu ei ffêr nol ym mis Tachwedd a chael anaf arall i'w goes ym mis Ebrill.

Dywedodd Bale ei fod yn "difaru rhuthro'n ôl yn dilyn llawdriniaeth ar ei ffêr".

'Dioddef lot o boen'

"Dydw i ddim 100% yn holliach. Tydw i heb chwarae ers chwech i saith wythnos," meddai.

"Dwi wedi cael llawdriniaeth ar y ffêr sydd heb wella'n iawn.

"Dwi wedi bod yn dioddef lot o boen ond wedi cymryd tabledi er mwyn brwydro drwy gemau."

'Ffeinal fy mreuddwydion'

Mae Bale wedi derbyn bod ei gyfle i ymddangos i Real Madrid ar ddechrau "ffeinal ei freuddwydion" yng Nghaerdydd yn annhebygol, ond bydd yn hapus i wneud os mai dyna ddymuniad ei reolwr.

Ychwanegodd: "Mae unrhyw lawdriniaeth yn anodd, ond yng nghanol tymor mae ychydig anoddach.

"Dyliwn i wedi oedi cyn dod 'nôl a gadael iddo wella, mi wnâi ddysgu o hyn."

"Beth bynnag fydd penderfyniad y rheolwr, fyddai'n hapus i gydymffurfio," meddai.

Bydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn digwydd nos Sadwrn, 3 Mehefin, yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru gyda'r gic gyntaf am 19:45.