Cyrff merlod wedi'u gadael mewn ffos ar gyrion Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r elusen atal creulondeb i anifeiliaid - yr RSPCA - yn apelio am wybodaeth ar ôl i gyrff pump o ferlod gael eu gadael mewn ffos mewn pentref ar gyrion Caerdydd.
Cafodd yr anifeiliaid - oedd mewn cyflwr pydredig - eu darganfod gan yr heddlu ym Mhentyrch ar 27 Mai, ac mae pâr o esgidiau glas gafodd eu gadael yno yn rhan bwysig o'r ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA eu bod yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Heol Tyn-Y-Coed.
Doedd yna ddim micro-sglodion wedi eu gosod ar yr anifeiliaid a does dim modd o wybod pwy oedd y perchennog.
"Cafodd pâr o sgidiau ymarfer Adidas glas eu canfod ger y cyrff, ac mae'n bosib bod y rhain a chysylltiad â'r digwyddiad," meddai Selina Chan, arolygydd gyda'r RSPCA.
"Roedd cyrff dau o'r anifeiliaid wedi pydru yn fwy na'r lleill, ac roedd cynrhon ar bob un ohonynt."
Dylai unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus gysylltu â llinell arbennig yr elusen, sef 0300 123 8018.