Paratoadau Gareth Blainey ar gyfer y gêm glwb fwyaf
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r brifddinas baratoi i groesawu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, sylwebydd pêl-droed BBC Cymru, Gareth Blainey, sy'n sôn wrth Cymru Fyw am y gwaith paratoi sydd i'w wneud cyn un o'r gemau mwyaf yn ei yrfa ddarlledu.
Faint o goliau mae Gareth Bale wedi eu sgorio i Real Madrid yng Nghynghrair Y Pencampwyr?
Beth ydy record Real a Juventus mewn gemau rhwng y ddau glwb?
Sawl gwaith mae ciciau o'r smotyn wedi penderfynu enillwyr Cynghrair y Pencampwyr neu Gwpan Ewrop ar ôl i rownd derfynol orffen yn gyfartal?
Dyna dri yn unig o nifer fawr o gwestiynau rydw i'n gwybod yr atebion iddyn nhw ers i mi ddechrau paratoi i sylwebu ar y gêm hon dair wythnos yn ôl.
Yr atebion ydy: 10 o goliau, wyth buddugoliaeth yr un a dwy gêm gyfartal, ac 11 o gemau.
O ran y paratoi, y cam cynta' oedd darllen adroddiadau ar gemau diweddar y ddau dîm gan dalu sylw yn arbennig i drefn y timau - hynny yw - pwy chwaraeodd yn yr amddiffyn, yng nghanol y cae ac yn y blaen.
Wedyn gwyliais i sawl fideo o uchafbwyntiau eu gemau nhw ar y we oherwydd ei bod hi'r un mor bwysig i mi allu 'nabod' amddiffynwr canol Juventus Andrea Barzagli ag ydy o i mi 'nabod' ymosodwr Real Cristiano Ronaldo wrth wylio o bellter y pwynt sylwebu.
Helpu i gofio
Y cam nesa' oedd ysgrifennu enwau'r chwaraewyr, eu hoedrannau, eu timau cenedlaethol a'u cyfanswm goliau y tymor hwn.
Mae ysgrifennu ffeithiau a ffigyrau yn hytrach na'u hargraffu yn help i mi gofio nifer ohonyn nhw wrth sylwebu ar gôl ac mae defnyddio gwahanol liwiau yn hwyluso pethau hefyd.
Rydw i'n ysgrifennu goliau chwaraewr mewn inc gwyrdd yn ymyl ei enw.
Y cam ola' oedd ysgrifennu manylion cyffredinol am y ddau glwb, eu rheolwyr a dyfarnwr y gêm ar un darn o bapur a ffeithiau am rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn y gorffennol ar ddarn arall.
Wrth sôn am y gorffennol, rydw i wedi bod yn ffodus iawn i sylwebu ar nifer fawr o gemau cofiadwy yn cynnwys rownd derfynol gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth rhwng Abertawe a Reading yn Wembley yn 2011, a'r gêm rhwng Cymru a'r Eidal yn rowndiau rhagbrofol Euro 2004 yn yr un stadiwm â'r rownd derfynol hon.
Rydw i'n siwr y bydd y gêm glwb fwya' i mi sylwebu arni yn aros yn fy nghof hefyd a bydd hi'n bleser a braint bod yno.
Bydda i'n ddiduedd, ond fel Cymro buaswn i wrth fy modd yn cael y cyfle i ddisgrifio Bale yn codi'r tlws yn ei ddinas enedigol.
Ac os gwnaiff o sgorio, gallwch fentro na fydd gen i lawer o lais ar ôl...