Cwmni ffonau symudol EE yn ymestyn eu gwasanaethau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
ffon

Mae cwmni ffonau symudol wedi cyhoeddi mai nhw yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn y Gymraeg.

Cwmni ffonau symudol EE, sy'n rhan o rwydwaith Grŵp BT, yw'r mwyaf yn y DU, ac fe fydd y cwmni yn cynnig y gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg o'u canolfan alwadau a siopau yng Nghymru.

Nawr fe fydd cwsmeriaid EE yn gallu gofyn am alwad gan dîm gwasanaeth Cymraeg EE wrth anfon neges destun neu arlein at y cwmni.

Hefyd, fe fydd aelodau o staff y cwmni sy'n siarad Cymraeg, yn nodi hynny drwy wisgo bathodyn gyda baner y Ddraig Goch arni.

Mae EE hefyd yn addasu eu siopau a chanolfannau cyswllt i gynnwys arwyddion dwyieithog Cymraeg/Saesneg parhaol.

Cynyddu staff Cymraeg

Dywedodd y cwmni eu bod yn edrych i gynyddu nifer y staff sy'n siarad Cymraeg yn eu 29 o siopau ar draws y wlad.

Dywedodd prif weithredwr EE, Marc Allera: "Rydym yn gweithio i ddarparu'r gwasanaeth cwsmeriaid a rhwydwaith 4G gorau ar gyfer ein cwsmeriaid yng Nghymru.

"Dyna'r rheswm pam ein bod am uwchraddio ein rhwydwaith 4G ar draws y wlad a'r penderfyniad i fod y cwmni symudol cyntaf i gynnig opsiwn i siarad gyda ni yn Gymraeg, boed wrth ofyn am alwad gan ein tîm ardderchog ym Merthyr neu ymweld â'n siopau ar draws y wlad."

Mae canolfan gyswllt EE ym Merthyr Tydfil wedi ennill sawl gwobr am ei gwasanaeth ac yn cyflogi bron 1,000 o staff a tua 50 prentis.