Dwy ddinas yn paratoi ceisiadau Dinas Diwylliant 2021

  • Cyhoeddwyd
HULL
Disgrifiad o’r llun,

Dathliadau yn Hull ar ddechrau cyfnod y ddinas fel Ddinas Diwylliant y DU

Mae'r ddwy ddinas yng Nghymru sy'n gobeithio bod yn Ddinas Diwylliant y DU yn dilyn cyfnod Hull yn bwriadu cynnig rhaglen o weithgareddau gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer 2021 os bydd eu cais yn llwyddianus.

Mae trefnwyr cais dinas Abertawe yn dweud eu bod yn gobeithio gwario cymaint a'r £33m y mae Hull yn ei wario eleni, tra bod Tŷ Ddewi wedi cynllunio rhaglen o weithgareddau gwerth dros £20m.

Caiff teitl Dinas Diwylliant y DU ei wobrwyo gan lywodraeth y DU bob pedair blynedd - gan gynnig cyfle i'r enillydd i ddenu buddsoddiad preifat a chodi proffil y ddinas honno'n sylweddol.

Mae'r ddinas fuddugol hefyd yn cael cyfle i lwyfannu digwyddiadau cenedlaethol o bwys yn cynnwys Gwobr Turner a Phenwythnos Mawr BBC Radio 1.

Mae 11 o ddinasoedd wedi gwneud cais i Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y llywodraeth er mwyn hawlio'r teitl yn 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd pererindod yn ganolog i thema cais Tŷ Ddewi

Cyngor Penfro sy'n gyfrifol am arwain cais Tŷ Ddewi, gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Tŷ Ddewi ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro.

Prif weithredwr yr Awdurdod ydi Tegryn Jones. Dywedodd wrth raglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales: "Mae'n ddyddiau cynnar, ond rydym wedi llwyddo i baratoi rhaglen gwerth £20m. Hyd yn hyn mae wedi bod yn galonogol iawn.

"Rwy'n credu fod gyda ni nifer o themau. Mae cefndir pererindod yn gryf ymysg rhain. Elfen amlwg arall yw'r arfordir a'r amgylchedd naturiol."

Fe lwyddodd Abertawe i gyrraedd y rhestr fer o bedwar y tro diwethaf cyn i Hull gipio'r teitl yn y pen draw.

Canolbwyntio ar y cyferbyniadau yn y ddinas mae'r cais yn ei wneud y tro hwn meddai Tracey McNulty, pennaeth gwasanaethau diwyllianol y cyngor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dinas Abertawe'n gobeithio bod eu cais am fod yn fwy llwyddianus y tro hwn

"Mae ganddo ni dipyn o hanes o bobl oedd yn fodlon cymryd risg ac arwain dyfeisgarwch byd-eang. Hefyd mae gennym dirlun trawiadol ond hefyd ardaloedd sy'n wynebu tlodi.

"Roeddem yn edrych ar y cyferbyniad rhwng pobl a lle - rydym yn chwarae gyda'r syniad o'r Abertawe 'hoffus, hyll' yr oedd Dylan Thomas yn ei ddisgrifio."

Mae Hull yn amcangyfrif bod £3bn o fuddsoddiad cyfalaf wedi bod ar gael o fod yn Ddinas Diwylliant y DU.

Mae'r £33m ychwanegol y mae'n ei wario dros y cyfnod o fod yn Ddinas Diwylliant yn cynnwys buddsoddi mewn addysg, gwirfoddoli a blwyddyn o ddigwyddiadau dyddiol.

Bydd yr 11 ymgeisydd ar gyfer Ddinas Diwylliant 2021 yn clywed fis nesaf a fydd eu henwau ar y rhestr fer o bedair dinas.