Helpu brawd oedd ynghanol ymosodiad Llundain
- Cyhoeddwyd
Cafodd Llinos Griffin neges gan ei brawd, Gareth, nos Sadwrn yn dweud ei fod wedi cloi ei hun mewn tŷ bach yn Borough, Llundain am ei fod yn ofni am ei fywyd.
Roedd ei brawd yn gofyn iddi gysylltu gyda'r awdurdodau i gael help.
Roedd Gareth yn un o nifer gafodd eu dal ynghanol yr ymosodiadau sydd wedi eu disgrifio gan yr heddlu fel rhai "terfysgol".
Fe ddaeth un o'r ymosodwyr mewn i'r bwyty gyda chyllell.
Neges destun gafodd Llinos i ddechrau.
"O'n i yn teimlo yn sâl...I feddwl mae mrawd i reit ynghanol y sefyllfa yma, mae jest yn hynod o frawychus."
Fe ffoniodd hi'r heddlu a siarad gyda swyddogion Heddlu De Cymru. Roedden nhw wedyn yn trio cysylltu gyda Heddlu'r Met.
Ar yr un pryd roedd hi'n anfon negeseuon at Gareth.
"O'n i jest yn adrodd yn ôl i'm mrawd i, jest yn dweud mae'r heddlu yn dweud bod ti yn neud y peth iawn.
'Arhoswch yn dawel'
"Arhoswch yn fanna, arhoswch yn saff, peidiwch dod allan tan mae'r heddlu yn cyrraedd. Arhoswch yn dawel, trowch ffôn chi ffwrdd. Ac mae'r heddlu ar y ffordd."
Mae'n dweud bod y profiad wedi bod yn "swreal".
"Pan mae rhywun ti'n caru mewn sefyllfa mor fregus a ti ddim cweit yn siŵr beth sydd yn digwydd, mae o jest yn uffernol o scary.
"Ti ddim yn gwybod be i wneud. Ti ddim yn gwybod sut maen nhw mynd i ymateb.
"O'n i ddim yn gwybod beth oedd y peth cywir i ddweud wrtho fo, i aros yna neu i fynd."
Roedd cael cyngor gan yr heddlu yn gysur meddai a gweld bod nifer o swyddogion o gwmpas yr ardal yn ceisio helpu'r cyhoedd.
Fe wnaeth hi siarad gydag o wedyn ar ôl iddyn nhw fynd i'r ysbyty.
"Mae o wedi bod yn lwcus. Mae o yn sylweddoli hynna a'r peth pwysig oedd gadael i bobl wybod bod nhw yn saff."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2017