Datblygiad £500m dinas Abertawe 'gam yn agosach'
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyngor yn gobeithio dechrau ar y gwaith adeiladu yn 2018
Mae cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i drawsnewid canol Abertawe gam yn agosach medd cyngor y ddinas.
Mae cais cynllunio amlinellol wedi ei gymeradwyo i ddatblygu ardal i'r gogledd a'r de o Ffordd Ystumllwynarth.
Ymysg y cynlluniau, fydd yn costio tua £500m, mae adeiladu arena ddigidol a chanolfan gynhadledd i'r de o'r ffordd, yn ogystal â maes parcio aml lawr newydd a gwesty 13 llawr.
Y bwriad yn yr ardal ogleddol yw agor rhagor o siopau, tai bwyta ac ardaloedd cyhoeddus newydd ar hen safle canolfan Dewi Sant.
Bydd pont droed lydan yn cael ei hadeiladu dros y ffordd i gysylltu ardaloedd gogleddol a deheuol y ddinas.

Delwedd artist o'r datblygiad

Dywedodd Martin Nicholls o Gyngor Abertawe: "Mae'r gymeradwyaeth yn golygu y gallwn ni nawr fwrw mlaen â'r cynlluniau ar gyfer y safle i'r de o Ffordd Ystumllwynarth, sef rhan gynta'r datblygiad.
"Drwy weithio mewn partneriaeth a Rivington Land a'u tîm cynllunio, bydd gwaith cynllunio manwl yn digwydd nawr ar yr arena dan do, y gwesty, y maes parcio aml-lawr a'r bont i gerddwyr.
"Unwaith y bydd y cynlluniau penodol wedi eu cwblhau, bydd angen caniatâd cynllunio, ond rydym yn gobeithio dechrau'r gwaith ar yr ochr ddeheuol ddiwedd gwanwyn a dechrau haf 2018."