Ble mae Bodedern?

  • Cyhoeddwyd
Map o Ynys MônFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ger pentref Bodedern ar Ynys Môn. Cyfeiriad y Maes yw LL65 3SS.

Ewch i wefan dywydd BBC Cymru i weld rhagolygon y tywydd ar gyfer Bodedern.

Click here for directions and weather in English

Sut i gyrraedd yr Eisteddfod

Mae'r Maes, y meysydd parcio, Maes B a'r holl feysydd carafanau, gwersylla a glampio drws nesaf i'w gilydd, felly dilynwch y cyfarwyddiadau isod ac yna dilyn yr arwyddion melyn i'r holl feysydd. Bydd system unffordd mewn lle ar y lonydd yma er mwyn lleihau tagfeydd ac i liniaru ar draffig ym mhentref Bodedern.

Ydyn ni yna eto? Cliciwch yma i chwarae gêm Bingo'r A470

O'r gorllewin: Wrth deithio ar yr A55, gadewch y ffordd ddeuol ar Gyffordd 4 a dilynwch yr arwyddion melyn.

O ochr Cemaes ac Amlwch: Dylai teithwyr fynd i'r Fali ac yna ymuno â'r A55 ar Gyffordd 3 (i'r dwyrain) cyn gadael y ffordd ddeuol ar Gyffordd 4 a dilyn yr arwyddion melyn.

O ochr Llangefni neu Lannerch-y-medd: Dylai teithwyr gyrraedd Trefor ac yna troi am yr A5 neu'r A55. Peidiwch â theithio tuag at Bodedern.

Os ydych chi'n anabl, dangoswch eich bathodyn glas i un o'r stiwardiaid yn y maes parcio, ac fe fyddwch yn cael ei cyfeirio at y llefydd parcio anabl.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Beicio

Bydd llefydd cloi beiciau o flaen prif fynedfa'r Maes.

Cludiant cyhoeddus

Trenau

Yr orsaf drenau agosaf yw'r Fali. Manylion ar wefan Trenau Arriva Cymru., dolen allanol

Bysiau

Manylion ar wefan Traveline Cymru, dolen allanol.

Awyren

Mae awyrennau yn hedfan rhwng Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Môn yn Y Fali ddwywaith y dydd yn ystod yr wythnos. Manylion ar wefan Cyngor Ynys Môn., dolen allanol

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol., dolen allanol

Mwy o straeon a newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol