I ble'r aeth y lliw?

  • Cyhoeddwyd

Mae'n gyflwr sy'n achosi i rannau o'r croen golli lliw oherwydd diffyg y pigment melanin yn y croen. Ond sut mae pobl sydd â'r cyflwr yn delio gyda vitiligo?

Dyw hi ddim yn glir iawn pam fod y croen yn newid ei liw, a does yna ddim iachâd cyfangwbl. Mae Llio Rhys yn diodde' o'r cyflwr, ac wedi rhannu ei phrofiadau â Cymru Fyw:

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Llio farciau o amgylch ei llygaid ac ar ei dwylo

Mae 1% o boblogaeth y byd yn diodde' o'r cyflwr vitiligo, ac rydw i'n un ohonyn nhw.

Nes i ddechrau sylwi ar y patshys gwyn a ymddangosodd mwya' sydyn o dan fy ngheseiliau pan o'n i tua 24. Doedden nhw ddim yn amlwg iawn i ddechrau gan eu bod nhw'n eithaf bach a gan fod fy nghroen i'n olau, ac o'n i ond wir yn cofio amdanyn nhw pan o'n i'n dal fy hun yn y drych.

Des i'n fwy ymwybodol ohonyn nhw wrth i'r patshys ledu, ac wrth i rai ddechrau ymddangos ar fy mysedd, ond doedd o ddim wir yn rhywbeth oedd yn effeithio arna i, felly do'n i'm yn poeni am y peth.

Es i ar wyliau un haf, a sylwi fod y rhannau gwyn yn mynd yn fwy amlwg wrth i weddill y croen gael lliw haul a thywyllu, ac roedd mwy o batshys yn ymddangos.

Erbyn hyn, wedi gwneud ychydig o ymchwil, ro'n i wedi deall mai vitiligo oedd enw'r cyflwr yma.

Dyw hi ddim yn glir iawn beth sy'n achosi'r croen i golli pigment - yn fy sefyllfa i, dwi'n meddwl mai hap a damwain oedd hi, gan fod yna ddim hanes o'r cyflwr yn fy nheulu, a gan nad o'n i wedi bod o dan straen aruthrol, sef dau beth mae meddygon yn credu all ei achosi.

Er fod yna ddim modd gwella'n gyfangwbl, mae modd cael triniaeth ffototherapi ar y croen, sy'n dod â'r lliw naturiol yn ôl i'r rhannau gwyn - ond dyw'r effaith ddim yn para', ac nid yw'r driniaeth yn atal y cyflwr rhag gwaethygu.

Mae'r rhannau sydd wedi troi'n wyn, am aros yn wyn am byth.

Byw gyda'r cyflwr

Dwi ddim yn teimlo'n hunan-ymwybodol iawn am y cyflwr yma ar y cyfan. Dwi'n cofio wir poeni am y peth am y tro cyntaf yn Awstralia ychydig o fisoedd yn ôl, pan es i i deithio am dri mis.

Dwi wedi sylwi fod yr haul yn achosi mwy o rannau gwyn i ymddangos, ac roedd hyn bendant yn wir yn haul tanbaid Awstralia.

Ro'n i wedi cael llawer o liw ar fy wyneb, a daeth y rhannau gwyn yn fwy amlwg o amgylch fy llygaid, fy ngheg ac ar fy ngên.

Mae'r rhannau yma sydd wedi colli pigment yn fwy sensitif na gweddill y croen, ac roedden nhw wedi llosgi ychydig hefyd. Felly roedd fy wyneb yn nifer o shades gwahanol o wyn a phinc a brown - fel hufen iâ Neopolitan! Ond buan basiodd y teimlad yna o ansicrwydd.

Ffynhonnell y llun, AFP/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r model Winnie Harlow wedi dod â'r peth i lygad y cyhoedd dros y blynyddoedd diwethaf ac yn dangos ei phatshys gwyn â balchder a hyder

Petawn i wir eisiau, baswn i'n gallu cael colur camouflage arbennig ar gyfer fy wyneb, ond tydw i ddim yn gwisgo colur wyneb beth bynnag, felly dwi'n meddwl 'swn i'n colli mynadd yn eithaf sydyn efo gorfod gwneud hynny bob dydd.

Dwi ddim yn dweud mod i wastad am deimlo fel hyn, ond ar hyn o bryd, tydy'r patshys ddim digon amlwg i mi deimlo'n rhy anghyfforddus am y peth - a dweud y gwir, tydy nifer o bobl ddim yn sylwi arnyn nhw tan i mi grybwyll y peth.

Dwi ddim yn siŵr faint fydd y patshys ar fy nghorff yn gwaethygu a lledaenu dros y blynyddoedd nesaf - a gwaethygu fyddan nhw yn sicr - ond dwi ddim am adael i'r peth fy mhoeni yn ormodol.

Dydi fy nghroen ddim yn newid sut berson ydw i - heblaw am efallai fy ngwneud i'n ychydig fwy hyderus.

'Pobl yn syllu'

Mae'r cyflwr yn medru effeithio ar ddynion a merched o bob oed. Dechreuodd vitiligo Daniel Derrick o'r Fenni ymddangos rhyw bum mlynedd yn ôl, meddai.

"Dwi wedi cael fy effeithio ar fy nwylo, braich, un goes a rhwng fy nghoesau. Mae hefyd ar fy wyneb, ond gan fod fy nghroen yn olau ac nid oes gen i liw haul ar y funud, dydy e ddim mor amlwg.

Ffynhonnell y llun, Daniel Derrick
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Daniel Derrick rannau gwyn ar ei ddwylo a'i goes

"Dwi'n defnyddio fy nwylo llawer yn fy swydd, ac mae pobl yn tueddu i syllu. Mae'n gwaethygu'n eithaf cyflym a dwi'n dechrau mynd yn fwy ansicr, a bod yn onest.

"Yn ffodus, does gen i ddim problemau eraill sy'n gysylltiedig â vitiligo, gan fod rhai pobl yn gallu datblygu afiechydon awtoimiwn eraill hefyd."

Mae symptomau 50% o'r dioddefwyr yn dechrau ymddangos cyn eu bod nhw'n 20 oed, fel ddigwyddodd i Mary-Beth Anderson, sy'n 12 oed o Aberteifi.

Ymddangosodd patshyn tua maint dwy geiniog ar ei bol pan roedd hi'n ddwy oed. Bellach mae wedi lledu dros 70% o'i chorff, ac yn effeithio ar bob rhan o'i chorff.

Mae un fraich yn gyfangwbl wyn, a'r llall yn batshiog. Mae ganddi rannau gwyn ar ei hwyneb a hyd yn oed streak gwyn yn ei gwallt.

Ffynhonnell y llun, Gwen Anderson
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhannau gwyn yn amlwg ar wyneb a breichiau Mary-Beth

Meddai ei mam, Gwen: "Ar y cyfan, dydy hi ddim yn gadael iddo'i phoeni, gan ei bod hi'n deall pa mor bwysig yw cael rŵtin eli haul, ac mae ganddi golur arbennig ar gyfer achlysuron pwysig.

"Mae disgyblion yn tueddu i syllu yn ystod gwersi addysg gorfforol, ac rydyn ni wedi cael problemau â bwlio yn y gorffennol, ond mae pethau wedi gwella erbyn hyn, ac mae hi llawer hapusach a hyderus yn ei hun.

"Mae hi wedi dangos symptomau o Addison's yn ddiweddar a allai fod yn gysylltiedig â'r vitiligo, felly rydyn ni wrthi'n cael profion ar hyn o bryd.

"Ond mae hi'n ferch gref - llawer cryfach na fi - ac rydw i'n gwybod y bydd hi'n dygymod â beth bynnag ddaw, fel mae hi wedi dygymod â hyn.

"Mae hi wedi cymryd amser hir i ddod i delerau â'r peth - roedd hi'n ei gasáu am hir - ond yn y flwyddyn ddiwetha' yma mae hi wir wedi dechrau caru pwy ydy hi."

Disgrifiad o’r llun,

Nid dim ond pobl sy'n gallu datblygu vitiligo. Mae White Eyed Rowdy yn enwog ar gyfryngau cymdeithasol ac yn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr ar draws y byd