Plaid Cymru: Dim cydweithio ffurfiol â'r Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r ansefydlogrwydd gwleidyddol barhau yn San Steffan mae Plaid Cymru wedi cadarnhau na fydd y blaid yn "cydweithio yn ffurfiol â'r Ceidwadwyr" yn San Steffan.
Fe ddywedodd llefarydd y byddai Plaid Cymru "yn ystyried pob pleidlais pan maen nhw'n codi."
Fe ddaeth sylwadau Plaid Cymru ar ôl i'w ymgynghorydd polisi Eurfyl ap Gwilym ddweud wrth raglen Taro'r Post y gallai Plaid Cymru ystyried cydweithio ar ambell fater.
Yn ôl Eurfyl ap Gwilym fyddai hyn "ddim yn gyffredinol ond ar bethau arbennig."
Pleidleisio 'er budd Cymru'
Dywedodd Mr ap Gwilym wrth BBC Cymru: "Os ydyn nhw'n dweud 'ni isio neud hyn a'r llall' ac mae fe'n iawn gyda ni bo nhw isio neud e, a bod ni'n cael rhywbeth ar y llaw arall - rhagor o fuddsoddi yn yr isadeiledd er enghraifft -yna bydden ni'n barod i ystyried hynny.
"Dim cefnogi nhw'n gyffredinol ond ar bethau arbennig."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Bydd Aelodau Seneddol Plaid Cymru, fel maen nhw wedi bob amser, yn pleidleisio er budd Cymru.
"Ond fydd 'na ddim unrhyw gytundebau neu glymbleidio gyda'r Ceidwadwyr."