Cofio rhyfel y Falklands yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
FalklandsFfynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Lladdwyd 48 ac anafwyd 97 o filwyr o Gymru yn ystod rhyfel y Falklands

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad i gofio rhyfel y Falklands 35 mlynedd yn ôl.

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones a Llywydd y Cynulliad Elin Jones ymhlith y gwleidyddion fydd yn bresennol.

Yn ystod y seremoni bydd cyn-filwyr yn ogystal â chynrychiolwyr o'r lluoedd arfog yn gosod torch er cof am y 255 aelod o'r lluoedd arfog Prydeinig a fu farw.

Yn eu plith roedd 48 o filwyr o Gymru. Bu farw 655 o filwyr o'r Ariannin yn ystod y rhyfel.

'Teyrngedau'

Dywedodd Darren Millar AC, cadeirydd y grŵp yn y Cynulliad ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid: "Mae'n iawn ein bod yn cyflwyno teyrngedau i bawb a fu'n rhan o'r gwrthdaro, ac yn enwedig y rhai a fu farw wrth wasanaethu ein gwlad."

Fe ddechreuodd y gwrthdaro ar ôl i luoedd yr Ariannin feddiannu'r ynysoedd yn 1982.

Adfeddiannwyd y Falklands gan luoedd Prydain ar ôl gwrthdaro byr ond ffyrnig.

Yn ogystal â'r milwyr a fu farw, lladdwyd tri o drigolion y Falklands yn ystod y rhyfel.