Mwy o gyfrifoldebau i'r Cyngor Llyfrau
- Cyhoeddwyd
Fydd cyfrifoldeb am gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn cael ei basio i Gyngor Llyfrau Cymru fel rhan o ad-drefnu ariannu diwylliant, mae'r Gweinidog Economi Ken Skates wedi cyhoeddi.
Mae'r wobr yn cael ei weinyddu ar hyn o bryd gan y corff Llenyddiaeth Cymru, ar ran y Cyngor Celfyddydau.
Fydd y ddau gorff yn parhau i redeg gwasanaethau fel canolfan ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd.
Dywedodd Mr Skates: "Dwi'n deall fydd rhai yn synnu at sgôp y newidiadau yma.
"Fe ddylen ni danlinellu fod y newidiadau yn ymateb i angen penodol mewn maes penodol.
"Dydyn nhw ddim yn adlewyrchiad o waith ehangach y Cyngor Celfyddydau, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith gwych mae Llenyddiaeth Cymru yn cyflawni mewn amryw o feysydd."
Yn ymateb i'r newyddion, dywedodd Llenyddiaeth Cymru mewn datganiad: "Mae adolygiad annibynol Llywodraeth Cymru o gymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru yn cyflwyno nifer o argymhellion sy'n mynnu ystyriaeth ofalus a thrylwyr.
"Edrychwn ymlaen at ddarllen yr adroddiad yn llawn, a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau yn parhau i fod yn hygyrch i ystod eang o gymunedau ac unigolion trwy Gymru gyfan."
Un sy'n croesawu'r newid i drefniadau rheoli gwobr Llyfr y Flwyddyn yw'r golygydd Bethan Mair.
"Mae'n syniad da" meddai. "Dwi'n croesawu bod y corff gweinyddu yn newid."