Cyngor yn ymateb i gynllun gwelliannau i'r A55

  • Cyhoeddwyd
A55Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau lwybr yn cael eu hystyried - llwybr coch a llwybr glas

Mae cynghorwyr Sir Y Fflint wedi ymateb i gynigon i wella un o'r prif ffyrdd sy'n cysylltu gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwario £200m ar wella'r A494/A55, gan ddweud bod y ffordd o "bwysigrwydd strategol i economi Sir y Fflint a gogledd Cymru".

O ran y gwelliannau mae dau lwybr - coch neu las - yn cael eu hystyried i wella llif y traffig, yn enwedig yn ystod adegau prysur.

Mae'r cyngor yn ffafrio trydydd llwybr y maen nhw wedi ei lunio eu hunain, ond mae cynghorwyr wedi penderfynu argymell y llwybr coch i'w cabinet.

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, ac mae disgwyl cyhoeddiad yn ystod yr haf.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yr A494 yw un o'r prif ffyrdd sy'n cysylltu gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr

Ddydd Gwener bu aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd yn ystyried manteision ac anfanteision y ddau opsiwn.

Mae'r llwybr glas, sydd tua 10 cilomedr, yn golygu lledu llwybr yr A55/A494 a gwelliannau i gyfnewidfa Ewlo.

Byddai tair lôn yn teithio i'r ddau gyfeiriad.

Mae'r dewis coch, tua 13 cilomedr, yn cynnwys ffordd newydd rhwng yr A55 a'r A548.

Byddai hefyd yn golygu addasu a gwella cyffyrdd, gyda dwy lôn i'r ddau gyfeiriad.